Ianto Jones photo
Ianto Jones
Eliawen
Trosolwg:
Busnes Meddygol yn gwerthu eli Cymreig traddodiadol o’r enw Eliawen. Mae’r rysait yn un teuluol ac wedi’i throsglwyddo o’r naill genhedlaeth i'r llall ers canrifoedd.
Sectorau:
Gwyddorau bywyd
Rhanbarth:
Ynys Môn

Fe wnes i ddechrau’r busnes er mwyn helpu i fasnacheiddio eli traddodiadol fy nheulu ar gyfer llosgiadau. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fwy o bobl gael budd o’r cynnyrch gwella naturiol yma, sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio’n lleol yn Ynys Môn ers cannoedd o flynyddoedd.

Busnes Meddygol ydy hwn, a chafodd ei sefydlu i hwyluso partneriaeth SMART rhwng Llywodraeth Cymru, Môn Naturals a Phrifysgol Bangor. Eli Cymreig traddodiadol yw ein cynnyrch, a’i enw yw Eliawen. Mae’n rysáit deuluol sydd wedi cael ei throsglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall ers cannoedd o flynyddoedd. Mae’r eli wedi cael ei ddefnyddio i drin llosgiadau a briwiau, ond rydym wedi gweld erbyn hyn ei fod hefyd yn help gyda heintiau, llid a chyflyrau eraill ar y croen. Rydym newydd gael ein Tystysgrif Cydymffurfedd Cosmetig, sy’n gadael i ni ddechrau masnachu’n gyfreithlon am y tro cyntaf. Rydym wrthi’n trafod â chwmni mawr ynghylch cynhyrchu’r eli a’i werthu. Byddwn yn parhau i wneud gwaith ymchwil pellach er mwyn helpu i ddilysu honiadau’r eli ymhellach.

Pan oeddwn i’n fyfyriwr Hanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor, bûm mewn gweithdy i entrepreneuriaid. Y Rhaglen Cefnogi Menter roddodd y sylfaen i mi ddechrau’r prosiect hwn drwy roi cefnogaeth i mi, fy nghyfeirio a thalu am Ymgynghorydd Busnes.

Cefais fy ysbrydoli gan fy nhad – dyn addfwyn, cariadus a chreadigol a oedd yn gweithio’n eithriadol o galed. Roedd yn uwch beiriannydd uchel iawn ei barch i Rio Tinto PLC, a bu’n gweithio ym mhob cwr o’r byd. Roedd hefyd yn ddyfeisydd ac yn datrys problemau, ac rwy’n gwybod ei fod wedi llwyddo i ddatblygu 3 patent i Rio Tinto a’u partneriaid.

Rydym wedi wynebu llawer o broblemau a rhwystrau – er enghraifft, Academyddion ddim yn ein cymryd o ddifrif, diffyg cyllid, materion deddfwriaethol, perchnogaeth dros eiddo deallusol, dilysu honiadau a chael cydnabyddiaeth am y gwaith. Ond mae hynny i gyd yn ein gwneud ni’n fwy penderfynol.

Y peth gorau am fod yn fos arnoch chi’ch hun yw’r rhyddid i ddilyn eich nod, i fod yn rheoli chi’ch hun ac yn gyfrifol am eich tynged eich hun. Y cyfle i wneud eich penderfyniadau eich hun. Y fraint o allu cyflogi pobl. Gweithio gyda’r bobl, y cyrff a’r sefydliadau rydych chi wedi’u dewis. Dewis pa brosiectau i weithio arnyn nhw. Gallu helpu’ch cymuned a thu hwnt fel rydych chi’n gweld – boed yn feddygol neu’n economaidd. Y fraint a’r cyfrifoldeb o allu gwneud gwahaniaeth i’r ddynoliaeth, a gadael gwaddol sy’n deilwng o’m cyndeidiau.

Fy nghyngor i fyddai gwneud rhywbeth rydych chi’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Meddyliwch am rywbeth y byddech chi’n hoffi ymchwilio iddo sydd o ddiddordeb i chi, neu sydd eisoes yn hobi i chi. Peidiwch â bod ofn meddwl yn ehangach – efallai fod eich gweledigaeth chi’n unigryw, felly mae angen i chi gael ffydd ynoch chi’ch hun. Os ydych chi’n credu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud, byddwch yn siŵr o lwyddo. Mae ymroddiad, dyfalbarhad ac amynedd yn ffactorau pwysig i gadw’ch traed ar y ddaear a chadw golwg ar eich nod. Po uchaf rydym yn dringo, yr hiraf yw’r daith. Ond bydd hynny’n talu ar ei ganfed.