Ioan Hefin
Ioan Hefin
Ioan Hefin
Trosolwg:
Actor, awdur a chyfarwyddwr llawrydd ym meysydd theatr, ffilm, teledu a radio
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Rydw i’n actor, awdur a chyfarwyddwr llawrydd ym meysydd theatr, ffilm, teledu a radio. Rydw i hefyd yn helpu i gyflwyno’r cwrs BA mewn Actio ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.

"Peidiwch â thorri’ch calon os na chewch waith ar unwaith. Rhaid cynnal eich ymroddiad a’ch dyfalbarhad yn barhaus. Daliwch ati!"

Ioan Hefin

Rydw i yn y diwydiant yma drwy hap a damwain! Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi astudio drama yn yr ysgol na’r brifysgol.

Ar ôl ennill gradd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, doeddwn i ddim digon da i chwarae’r trwmped yn broffesiynol, a phrin oedd fy newisiadau ar ôl graddio.

Gan fod fy opsiynau yn brin, rhoddais gynnig ar ymuno â chwmni theatr.

Ro’n i’n ddigon ffodus i gael grant sefydlu busnes yn y 1980au. Golygodd hynny fy mod yn cael £40 yr wythnos a mod i’n gallu gweithio gyda Chwmni Theatr CC3 lle cefais brofiad a hyfforddiant. Cymerodd hi gryn amser i argyhoeddi’r awdurdodau bod actio yn fusnes dilys.

Rydw i wrth fy modd gyda’r rhyddid a'r cyfrifoldeb o fod yn gweithio i mi fy hun. Mae pob diwrnod yn wahanol. Mae pob cleient yn unigryw.

Nid ceisio newid unrhyw beth yw fy nod - yn hytrach, rydw i am ddysgu o bob profiad. Bob tro nad yw rhywbeth yn gweithio, rydw i’n ceisio paratoi cynllun i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n well y tro nesaf.

Does wybod beth sydd ar y gweill ym maes actio, ac mae’n dibynnu i raddau helaeth ar eich gallu i gael y swydd. Yn ffodus i mi, mae sawl rôl o hyd ar gyfer pobl o bob oed, felly os ydw i’n parhau i ganolbwyntio, gweithio’n galed a bod yn barod i fentro, does wybod beth fydda i’n ei wneid mewn 10 mlynedd.

Mae actio a’r celfyddydau perfformio yn sector hynod gystadleuol. Rydw i wedi bod yn ffodus i gwrdd ag unigolion pwysig ar adegau pwysig, ond rydw i hefyd wedi yn drylwyr iawn o ran fy uchelgais, fy ngwaith, fy egni a fy ymroddiad.


Cysylltu gyda Ioan