Jack
Jack Gillman
Jack Gillman
Trosolwg:
Llysgennad Ifanc - Marchnata Llawrydd
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Gwynedd

Fe wnaeth fy nhaith i fyd marchnata llawrydd ddechrau pan oeddwn yn 13 oed, pan oeddwn yn cefnogi cwmnïau ac unigolion mewn amrywiaeth eang o sectorau o fy nghartref yn Llundain. Menter greadigol oedd hon i ddechrau, yn datblygu deunyddiau cyfathrebu (ysgrifennu copi, hysbysebion ac ati) i'w defnyddio ar gyfer fy mhortffolio; ond gydag amser symudodd fy niddordeb tuag at strategaethau marchnata.

Cafodd fy niddordeb ei gadarnhau’n llwyr drwy fy ngradd (BA Anrh.) mewn Marchnata ym Mhrifysgol Bangor lle wnes i ddarganfod fy nghariad tuag at ddatblygu strategaethau ar gyfer gwasanaethau Busnes i Fusnes. Wedi amser byr yn rhwydweithio, des ar draws toreth o gleientiaid cenedlaethol a rhyngwladol a welodd fy nhalent mewn dim o dro. Dechreuais fentro i fyd marchnata llawrydd am sawl rheswm. Yn fwyaf arbennig, roeddwn i’n edmygu’r rhyddid a’r annibyniaeth na cheir ond mewn nifer fach o yrfaoedd.

Fi sy'n dewis gyda phwy rwy’n gweithio a pha waith rwy’n ei wneud. Yn y 12 mis diwethaf yn unig, rwyf wedi gweithio gyda 16 o gwmnïau yn y gwneud gwaith rwy’n frwd drosto, gwaith rwy’n mwynhau ei wneud. Hefyd, mae gwaith marchnata yn golygu fy mod yn defnyddio fy nhalent naturiol ar gyfer busnesau tra hefyd yn bodloni fy anghenion i fod yn greadigol ac i astudio pobl a’u hymddygiad.