Jade Emment
Serenity Beauty Suite
Trosolwg:
Ystafell harddwch a chyrsiau hyfforddi
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Abertawe

Gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau TGAU ond gyda chymhwyster mewn harddwch, a wnaeth fy helpu i gael lle ar gwrs coleg. Tra roeddwn yn astudio, dechreuais wasanaeth harddwch symudol, ond yna darganfyddais fy mod yn feichiog cyn dechrau swydd llawn amser ar long. Ar ôl i fy mab gael ei eni, astudiais ar gyfer fy nghymwysterau trin gwallt ac addysgu, ac yna bûm yn gweithio mewn sba cyn rhentu eiddo yn Abertawe i ddechrau fy musnes.
 
Credwch ynoch eich hun a mynd amdani - mae'n well difaru gwneud rhywbeth, na difaru peidio â’i wneud.
Jade Emment - Serenity Beauty Suite
 
Mae fy ystafell harddwch bellach yn cynnig profiad salon proffesiynol, lle i ymlacio, gydag ystod o driniaethau harddwch, ar gyfer yr wyneb a'r corff i ferched a dynion. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddiant mewn gwahanol driniaethau harddwch. 
 
Er bod fy nheulu wedi bod yn gefnogol bob amser, fy ysbrydoliaeth mwyaf oedd fy nhiwtor coleg, a ddysgodd i mi gredu ynof fy hun. Rydym yn dal i gadw mewn cysylltiad hyd heddiw.