James Lewis
James Lewis
James Lewis
Trosolwg:
Mae unigolyn 23 oed o’r Barri a ddaeth yn ddigartref yn 16 oed wedi lansio ei fusnes dylunio graffeg ac argraffwaith ei hun, ac erbyn hyn mae’n gweithio gyda chleientiaid yn fyd-eang.

 

Entrepreneur ifanc o’r Barri yn dylunio ei ddyfodol gyda busnes caligraffeg

Mae unigolyn 23 oed o’r Barri a ddaeth yn ddigartref yn 16 oed wedi lansio ei fusnes dylunio graffeg ac argraffwaith ei hun, ac erbyn hyn mae’n gweithio gyda chleientiaid yn fyd-eang.

Er gwaethaf plentyndod trawmatig lle y collodd ei ddau riant oherwydd cyflyrau iechyd gwahanol erbyn iddo droi’n 12 oed, sefydlodd James Lewis ei gwmni dylunio eponymaidd ac yn ddiweddar lansiodd ei ffont 3D unigryw VERSA sydd wedi’i phrynu gan ddylunwyr o bedwar ban y byd.

Pan oedd yn blentyn yn ei arddegau, byddai James yn defnyddio ei ddawn greadigol fel mecanwaith i ymdopi â’r adfyd a wynebodd wrth dyfu i fyny. Ac ers hynny mae wedi troi ei angerdd am argraffwaith a dylunio’n fusnes llwyddiannus, ac ymhlith ei gleientiaid mae Red Bull, Wix, a chwmnïau papurach Manuscript Pen Company a Tombow.

Mae James yn clodfori Lynne Appleyard o Ynys y Barri, y llogodd ystafell ganddi o 16 oed gyda chymorth gan y Llywodraeth, am lawer o’r newidiadau yn ei fywyd, a hi anogodd i feddwl am ei uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Oddi yno, dechreuodd James arbrofi â dylunio graffeg, gan greu logos a gweithiau celf er hwyl.

Mae James hefyd wedi denu bron 200,000 o ddilynwyr ar ei dudalen Instagram (@jamesllewis) lle y mae’n rhannu lluniau, tiwtorialau fideo a diweddariadau ar ei yrfa greadigol. Hefyd sefydlodd The Ligature Collective, sef asiantaeth frandio gydweithrediadol a leolir yng Nghaerdydd, sy’n rhoi bywyd i frandiau trwy ddyluniadau wedi’u teilwra – sydd hefyd wedi denu bron 270,000 o ddilynwyr ar Instagram (@ligaturecollective).

Mae dyluniadau mentrus James wedi denu sylw ar draws y byd, ac mae wedi derbyn gwahoddiad i gynnal gweithdai yn ystod arddangosiadau a chynadleddau dylunio byd-eang yn Tokyo, Milan ac Indonesia. Fis nesaf bydd yn cychwyn ar daith pedwar diwrnod o’r Unol Daleithiau lle y bydd yn cynnal gweithdai llythrennu yn Efrog Newydd, San Francisco, Austin ac yn olaf, yn Arkansas lle y bydd nid yn unig yn addysgu mewn gweithdy ond bydd hefyd yn rhoi araith gyweirnod yn ystod cynhadledd greadigrwydd Made by Few.

Gan siarad am ei waith meddai James: “Rwyf bob amser wedi defnyddio creadigrwydd fel gollyngfa i’m symud rhag y caledi yn fy mywyd ond mae’r anogaeth rwyf wedi’i derbyn gan gymuned gynyddol ar gyfryngau cymdeithasol wedi magu fy hyder a dechreuais gredu yn fy ngalluoedd.

“Yn gynnar yn fy nghyfnod yn y Brifysgol bu’n rhaid i mi benderfynu rhwng dilyn trywydd academaidd neu ddilyn fy angerddau creadigol ac wrth gwrs fy nghariad at bob peth creadigol oedd yn fuddugol. Ac er nad hwnnw oedd y llwybr hawsaf i’w ddilyn, mae’n un sy’n rhoi llawer o foddhad i mi.”

Erbyn ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol De Cymru, y derbyniodd James gymorth ariannol ar gyfer ei gwrs trwy fwrsariaeth a ddyfarnwyd iddo gan Lywodraeth Cymru, mae wedi denu cynifer o ddilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol ei fod wedi creu digon o lwyfan i ddatblygu ei fusnes, yn enwedig am fod cleientiaid eisoes yn cysylltu ag ef trwy ei sianeli Instagram. 

Mae James wedi tyfu ei fusnes gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru. Ariennir Syniadau Mawr Cymru gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a anelir at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.

Cafodd James ei argymell i Syniadau Mawr Cymru gan ffrind y cyfarfu ag ef ar raglen Sbarc Entrepreneuraidd NatWest. Ers hynny, mae wedi cyfarfod ag ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, Chris Howlett.

Parhaodd James: “Pan gyfarfuais â Chris am y tro cyntaf roeddwn wedi ymgolli yn ochr greadigol fy ngwaith ond nid oeddwn yn meddwl gyda meddwl busnes cadarn. Roeddwn yn cyflawni gwaith unswydd ar logos neu ar gomisiynau gwaith celf fan hyn fan draw, a thra bod hynny’n wych, anogodd Chris i mi feddwl am lansio cynnyrch i ehangu fy mhortffolio a’m brand. Dyma le y ganwyd fy ffont gyntaf VERSA, sy’n arddull sy’n unigryw i mi. Mae cyngor Chris ar gyllid wedi bod yn amhrisiadwy yn ogystal.”

Nawr bod ganddo ardal stiwdio barhaol ym Mhlas yr Amgueddfa, Caerdydd mae James yn meddwl o ddifrif am ei ddyfodol, ac mae ganddo ddyheadau i ehangu ei gynnyrch ymhellach tra’n parhau i gynnal gweithdai i ysbrydoli pobl greadigol flagurol eraill o amgylch y byd.

Meddai Chris Howlett, ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru: “Mae James yn ddyn ifanc rhyfeddol sydd wedi dangos llwyth o benderfyniad er gwaethaf profi profiadau sy’n newid bywydau yn ei arddegau. Mae’n ysbrydoliaeth i unrhyw berson busnes ac i bob person busnes, beth bynnag ei oedran, ac mae’n esiampl wych i bobl fusnes ifainc eraill ei bod yn bosib dilyn eich breuddwydion beth bynnag eich amgylchiadau, yr unig beth y mae ei angen yw’r agwedd gywir.”


Cewch sesiynau 1-2-1 gyda Chynghorydd Busnes, canllaw ar gychwyn busnes a Simply Do Ideas - ffordd wych o ddatblygu eich syniadau busnes chi!