James Murrant
Safety at Work Ltd
Trosolwg:
Cwmni ymgynghori ar hysbysebion dysgu i’r sector iechyd a diogelwch
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Rwyf wedi gweithio ym maes Peirianneg ers i mi adael yr ysgol ac ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol fel prentis beiriannwr awyrennau ym 1977.  Ym 1998 ar ôl cael sawl swydd wahanol, penderfynais fentro cychwyn fy musnes fy hun. Dechreuais gydag archwilio diogelwch peirianneg ac yna fe wnes arallgyfeirio i gynnwys dysgu a gwaith ymgynghori ym maes iechyd a diogelwch.

Pan fo amheuaeth yn codi, gofynnwch gwestiwn, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn wrth rhywun sydd â’r ateb cywir.
James Murrant - Safety at Work Ltd
 
Mae fy nghwmni, Safety at Work Ltd yn darparu’r gwasanaethau hyn yn y DU a thramor, gan gynnwys Gogledd Affrica, y Dwyrain Canol, yr UDA a Tsiena. Wrth i’r busnes esblygu, rydw i wedi dod yn fwy ynghlwm wrth waith ymgynghori a hyfforddi, sy'n cynnwys cyrsiau e-ddysgu a chyrsiau unigryw.