Mae Zeffa yn asiantaeth cynllunio a phrynu yn y cyfryngau. Rydyn ni’n cael gorchwyl gan gleient ac yn gweithio gyda nhw er mwyn dewis a chynnal ymgyrchoedd hysbysebu fydd yn cyflawni eu hamcanion.
"Mae'n bwysig eich bod yn gwybod yn union beth ydych am ei wneud. Mae angen gweledigaeth (ar adegau anodd, bydd atgoffa eich hun am pam y dechreuoch hyn yn y lle cyntaf yn eich helpu), a pheidiwch byth â bod ofn siarad â phobl."
James Robinson - Zeffa
Ro'n i wedi cael llond bol ar bobl yn dweud wrtha i 'allwn ni ddim gwneud pethau fel yna am ein bod wastad wedi defnyddio ffordd arall'.
Roedd dechrau fy musnes fy hun yn golygu bod ein cwsmeriaid yn cael eu trin yn well.
Rydw i wrth fy modd yn gweld fy nhîm yn ennill profiad a gwybodaeth. Maen nhw'n griw gwych o bobl sy'n gallu cyflawni gwyrthiau bron bob dydd.
Fe ddechreuais fy musnes yn 2008 ychydig cyn dechrau'r wasgfa gredyd. Bu'n rhaid imi wneud rhai penderfyniadau anodd yn gynnar ynghylch p'un a ddylwn ddychwelyd i swydd gymharol sefydlog ai peidio. Fe ddysgais lawer yn ystod fy mlwyddyn gyntaf mewn busnes am bethau ar wahân i farchnata. (trethi, cyflogres, cyfreithiau a rheoliadau)