James Taylor
SuperStars
Trosolwg:
Yn helpu i godi safonau ysgolion
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Mae SuperStars yn helpu ysgolion i godi safonau drwy ddefnyddio chwaraeon, drama, celf a cherddoriaeth, gan weithio gyda mwy na 70,000 o blant yr wythnos. Rydym yn cyflogi tîm o 250 o arbenigwyr ymroddedig o safon uchel sy'n cyflwyno gwersi mewn ysgolion cynradd.
 
Gweithiwch yn galed a deall nad oes llwyddiant heb aberth.
James Taylor - SupersStars
 
Sefydlais y cwmni gyda £1,000 yn y banc ar ôl gorffen fy ngradd Seicoleg Plant ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe sylweddolais bod cyflawni fy mreuddwyd yn mynd i gymryd mwy na gradd - roedd angen calon, awydd a dewrder.
 
Rwyf wedi gorfod aberthu ar hyd y ffordd a gweithio'n galetach nag unrhyw un arall rwyf yn ei nabod, ond mae werth pob eiliad.