Jason Pask
Career VIP Limited
Trosolwg:
Hyfforddiant gyrfa i unigolion a gwasanaethau all-osod proffesiynol/ymgynghoriaeth proses recriwtio ar gyfer cwmnïau.
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Sefydlodd Jason Pask ei fusnes cyntaf yn 2005 a chafodd cwmni pellach ei sefydlu yn 2016.

Mae’r cwmni newydd yn cynnig hyfforddiant gyrfa a gwasanaethau all-osod proffesiynol i gwmnïau.

Ar ôl rhedeg ei fusnes llwyddiannus ei hun ym maes chwilio a dethol am y degawd diwethaf, mae Jason yn deall y farchnad swyddi’n drylwyr.  

Os penderfynwch gychwyn busnes, credwch ynddoch chi’n hun a’ch gallu 100%, bydd hyn o fudd mawr i chi. Hefyd mynnwch wrando mwy na siarad.

Jason Pask - Career VIP Limited

Mae’n gwybod beth mae cyflogwyr yn chwilio amdani a sut y gall unigolion wella eu cyfleoedd o lwyddo. 

Mae Jason wedi cynorthwyo cwmnïau fel ymgynghorydd ar bynciau fel dileu swyddi, arolwg o gyflogau, trosiant gyrfa, a rheoli talent. 

Yn ogystal mae wedi darlithio i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd ar amrediad o bynciau, o beth mae’n ei gymryd i weithredu’ch busnes eich hun i baratoi ar gyfer byd gwaith.

Gwefan: careervip.co.uk