Jayne Brown
Jayne Brown Health and Fitness
Trosolwg:
Trefnydd diwrnodau chwaraeon a ffitrwydd mewn canolfannau hamdden ac ysgolion
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Merthyr Tudful

Rwyf yn cynnig ystod lawn o chwaraeon i ganolfannau hamdden, ysgolion a cholegau, ac hefyd yn rhedeg diwrnodau Iechyd a Ffitrwydd mewn nifer o ysgolion. 
 
Mae'n bwysig cael angerdd a chymhelliant i ddechrau mewn busnes. Peidiwch byth â bod ofn gofyn am help ac arweiniad, a byddwch yn barod i glywed ‘na’ sawl tro ar y dechrau.
Jayne Brown - Jayne Brown Health and Fitness 
 
Roeddwn bob amser yn gwybod fy mod eisiau gweithio i mi fy hun a gwneud gwahaniaeth mewn rhyw ffordd. Mae cael fy oriau gwaith fy hun, yn enwedig pan oedd fy mab yn ifanc, a gwneud rhywbeth roedd gen i angerdd mawr amdano yn rhoi llawer o foddhad. 
 
Roedd llawer o rwystrau ac anawsterau yn y dechrau, ond rwy’n eu gweld fel man dysgu. Llwyddais i gadw fy llygad ar y gôl, dal i drio, a pheidio byth â rhoi'r gorau.