Jenine Gill
Inspirations Day Nursery Ltd
Trosolwg:
Meithrinfa sydd wedi ennill gwobrau
Sectorau:
Gwasanaethau Gofal
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Cafodd Little Inspirations ei sefydlu yn 2003. Rydyn ni'n gofalu am dros 130 o blant a theuluoedd bob wythnos ac rydyn ni'n cyflogi 57 o staff. Mae'r cwmni wedi ennill sawl cydnabyddiaeth fel arweinydd y sector gan Estyn, y Busnes Gwasanaeth Gorau yn RhCT 2013, a llawer mwy.

"Mae bod yn benderfynol yn beth da, ond rhaid ichi gofio beth ydych am ei gyflawni. Byddwch yn driw i chi'ch hun. Rydw i'n meddwl mai fy mhlentyndod oedd fy rhwystr, ond erbyn hyn, dyma sy'n fy ysgogi."

Jenine Gill - Inspirations Day Nursery Ltd

Ar ôl gadael y coleg, fe es i weithio i un o'r darparwyr gofal plant mwyaf yng Nghaerdydd, a buan iawn y cefais fy nigalonni gan yr arferion gwael a'r diffyg dealltwriaeth o allu nyrs feithrin.

Gan fy mod yn awyddus i roi fy sgiliau ar waith, fe gefais swydd fel nani i deulu oedd yn berchen ar eu busnes eu hunain.

Rhoddodd hynny y cyfle imi wella fy sgiliau fel nyrs feithrin yn ogystal â fy sgiliau busnes.