Mae dros 40% o bobl ifanc yn dweud y byddent wedi gwneud gwell dewisiadau pe byddent wedi cael gwybodaeth a chyngor o well ansawdd yn yr ysgol. Pobl ifanc sydd wedi dioddef fwyaf oherwydd Covid, gyda phobl ifanc dan 25 yn fwy tebygol o fod wedi cael eu gwneud yn ddi-waith neu gael eu rhoi ar ffyrlo nag unrhyw grŵp oedran arall, ac mae swyddi gwag i raddedigion wedi syrthio 60%.
Nod ein platfform yw dileu’r rhagfarn o’r broses o ganfod a chynllunio gyrfa. Darparwn i bobl ifanc gyfres gynhwysfawr o ddewisiadau er mwyn cyrraedd eu nodau gyrfaol ynghyd â ffordd o gymharu gwahanol lwybrau megis mynd i brifysgol neu wneud prentisiaeth.
Dechreuom ein busnes ar ddechrau pandemig byd-eang. Roedden ni’n meddwl y byddai’r rhwygiadau economaidd yn cael effaith wael ar ragolygon pobl ifanc i gael gwaith, ac roeddem eisiau creu ateb a allai eu helpu i roi eu gyrfaoedd yn ôl ar ben ffordd.
Fe wnaethom ddatblygu Datganiad o Werth ar gyfer offeryn cynllunio gyrfa seiliedig ar ddata a’i brofi gydag amrywiol grwpiau defnyddwyr. Yna fe wnaethom gasglu ynghyd dîm bychan o wirfoddolwyr a oedd ar ffyrlo o’u swyddi a chreu prawf o gysyniad a wnaeth ennyn buddsoddiad ac a ddatblygwyd yn gynnyrch byw ar gyfer ysgolion a cholegau.
Fe wnaeth her y pandemig byd-eang roi ysbrydoliaeth inni. Teimlem fod gennym bersbectif unigryw ar y tirlun sgiliau a chyflogaeth a allai helpu i arwain pobl ifanc i yrfaoedd llwyddiannus a gwobrwyol. Fe wnaeth y pandemig inni sylweddoli ein bod yn anhapus yn ein gyrfaoedd corfforaethol a rhoddodd ffyrlo inni fynediad i dîm dawnus o beirianwyr meddalwedd a allai ddod â’n gweledigaeth yn fyw.
Fe wnaeth yr holl ffactorau hyn greu’r cyfle am fenter newydd gyffrous.
Ein her fawr fwyaf oedd darbwyllo buddsoddwyr o’n gweledigaeth. Bu’n rhaid inni greu prawf o gysyniad i ddangos sut byddai’r cynnyrch newydd yn gweithio a’i brofi gyda darpar gwsmeriaid er mwyn cael adborth a chael y farchnad i’w ddilysu. Cyn belled, rydym wedi cael £250K o gyllid di-ecwiti i ddatblygu ein cynnyrch a’n busnes.
Ein hail her oedd treiddio i mewn i’r farchnad. I ddechrau, fe wnaethom geisio gwerthu ein cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr (B2C) ond buan y gwnaethon ni sylweddoli nad oedd gennym, fel busnes newydd, gyllideb farchnata ddigonol i hysbysebu ein cynnyrch yn effeithiol. Fe wnaethom adolygu ein strategaeth ar gyfer y llwybr i’r farchnad ac addasu ein cynnyrch ar gyfer y farchnad ysgolion a cholegau (B2B2C). Mae gennyn ni’n awr nifer o gwsmeriaid peilot ar draws Cymru sy’n defnyddio’r Platfform.
Mae’n wych cael y rhyddid i greu a gweithredu syniadau newydd. Rydyn ni’n esblygu ein Datganiad o Werth yn barhaus ar gyfer ein cwsmeriaid ac yn ymuno â marchnadoedd newydd. Fel bos arnaf fi fy hun, rwy’n delio â’m hamser a’m tasgau mewn ffordd sy’n addas i’m personoliaeth ac i’m ffordd i o fyw.
Mewn cwmni corfforaethol, ychydig o hyblygrwydd a chyfle i gyfrannu syniadau a gewch chi fel arfer.