Rwy’n Entrepreneur trwy ddamwain gan nad oeddwn wedi ystyried gweithio i mi fy hun na rhedeg fy musnes fy hun cyn hyn. Daeth cyfle i wneud hynny ac roedd yn gynnig rhy dda i’w wrthod.
Rwyf wedi treulio fy holl yrfa ym maes Marchnata a chefnogi busnesau ar lefel strategol a thactegol ac wedi mwynhau helpu busnesau i wireddu eu potensial drwy ymgyrchoedd digidol. Roeddwn yn llwyddiannus iawn yn yr ysgol ac enillais Radd gyfun mewn Ffrangeg/Saesneg a Busnes. Dechreuais yrfa gorfforaethol, cefais sawl dyrchafiad a llwyddiant, a chefais gyfle i deithio dros y byd a rheoli timau marchnata amrywiol mawr.
Dechreuais fy musnes yn ddamweiniol pan gefais gyfle i brynu busnes oedd yn bodoli gyda fy mhartner busnes presennol. Roedd yn gam nad oeddwn wedi’i ystyried o’r blaen, ac wrth i bob diwrnod fynd heibio rwyf wedi dysgu rhywbeth newydd. Mae bod yn fos arnoch eich hun yn golygu bod amryw o heriau a phethau cadarnhaol. Rwy’n gwerthfawrogi fy mod yn gallu rheoli fy amser fy hun yn ogystal â’r ffaith bod popeth a wneir o dan fy rheolaeth. Ar nodyn negyddol, fel perchnogion y cwmni nid yw’r rhai olaf i gael ein talu. Wedi dweud hynny buaswn yn annog unrhyw un i ddilyn ei ddiddordeb a bachu ar bob cyfle’n syth.