Joe CHarman
Joe Charman
Trosolwg:
Llysgennad Ifanc Syniadau Mawr Cymru
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Mae Joe yn Llysgennad Ifanc dros Syniadau Mawr Cymru

Mae ein Llysgenhadon Ifanc yn entrepreneuriaid newydd, uchelgeisiol sydd wedi dechrau busnes yn ddiweddar, ac sydd am ysbrydoli eu cyfoedion. Mae llawer ohonyn nhw wedi elwa ar gymorth gan Syniadau Mawr Cymru, a hoffen nhw rannu eu profiadau ar-lein ac mewn digwyddiadau. Rhowch wybod inni os hoffech chi drafod ag unrhyw rai o’n Llysgenhadon Ifanc.

 

Lansiodd Joe Charman Pilot Plus yn 16 oed ac erbyn hyn mae’n rheoli tîm o dri chyflogai. Mae Joe a’i dîm yn atgynhyrchu meysydd awyr go iawn ledled y byd ar ffurf ddigidol 3D, gan ddefnyddio delweddau maent yn eu cipio o olygfeydd meysydd awyr. Mae’r replicâu 3D digidol o amgylcheddau tu allan i feysydd awyr, gan gynnwys Gatwick, Bryste a Geneva yn creu atgynhyrchiad o amgylchedd ar gyfer defnyddwyr, fel petaent yn llywio awyren drwy’r maes awyr penodol hwnnw yn y byd go iawn.

Gyda’i uchelgeisiau entrepreneuraidd mewn cof, cafodd Joe ei gyflwyno i Syniadau Mawr Cymrurhan o wasanaeth Busnes Cymru i annog entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru. Caiff Syniadau Mawr Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i hanelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.

Gan weld ei gyfle i ehangu ei gysylltiadau ymhellach, sefydlodd Joe Rwydwaith Entrepreneuriaid cyntaf PrifysgolAbertawe gydag un o’i gyd-fyfyrwyr, grŵp sy’n annog myfyrwyr i ddilyn eu huchelgeisiau busnes.

Aeth yn ei flaen: “Mae fy mryd ar fusnes erioed, ond mae Syniadau Mawr Cymru wedi helpu fy sgiliau datblygu personol ac wedi fy nghysylltu â llawer o entrepreneuriaid dylanwadol, gan danio fy awydd entrepreneuraidd ymhellach.”

Yn ei drydedd flwyddyn mae Joe yn bwriadu ysgwyddo gofod swyddfa yn Abertawe.

Meddai: “Rwyf bob amser wedi ei chael yn ddigon hawdd rheoli fy ngwaith yn y brifysgol a’m bywyd busnes, gan wybod pryd i roi mwy o sylw i’r naill na’r llall pan fydd dyddiadau terfyn ar y gweill. Yn fy mlwyddyn olaf, rwy’n bwriadu cymryd rhagor o bobl ymlaen i helpu i ehangu ystod ein cynhyrchion a pharhau i ymdrechu i arwain y farchnad, gan gystadlu ag eraill sydd wedi lansio yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

“Rwy’n credu bod dyfodol Pilot Plus yn ddisglair. Rydym yn creu cynhyrchion sy’n arwain arloesi yn y maes. Wrth i ni ganolbwyntio ar ein prosiect presennol, Maes Awyr Dinas Llundain, y bwriad wedyn yw dod â holl gynhyrchion y gorffennol i fyny i’r un safon. Hefyd mae’n fwriad gennym fuddsoddi mewn gwahanol farchnadoedd lle gall ein sgiliau a’n technoleg gael eu cymhwyso, fel dylunio mewnol rhithwir yn ogystal â delweddu pensaernïaeth.”