Joe Purches
Castell Partnership
Trosolwg:
Sawl busnes gwahanol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Powys

Dechreuais fy musnes cyntaf oherwydd mod i wedi diflasu fel cyflogai'n gweithio i rhywun arall.  Roeddwn i eisiau ceisio sefydlu busnes ar fy mhen fy hun, hyd yn oed os o’n i’n methu.  Roedd fy nghwmni cyntaf yn gwerthu GPS i'r farchnad awyr agored pan roedd eisoes wedi’i sefydlu yn y farchnad forol. 
 
Peidiwch â rhoi'r gorau iddi os yw'n rhywbeth yr ydych yn teimlo'n angerddol amdano.  Rhowch 100% bob amser.
Joe Purches - Castell Partnership
 
Rwyf bellach yn rhedeg Castell Partnership, sy'n ymgorffori nifer o fusnesau.  Y prif ddau yw The Point – marchnata a dylunio graffeg - ac Ayton West Imaging – cynnyrch, bwyd a ffotograffiaeth fasnachol.
 
Roedd yr heriau ar hyd y ffordd yn cynnwys diffyg cyllid, partneriaid ddim yn cydweithredu a’r amodau masnachu anodd oherwydd y dirwasgiad.