John Islwyn Jones
Pen y Bryn Falconry
Trosolwg:
Hebogyddiaeth
Sectorau:
Ffermio a choedwigaeth
Amrywiol
Rhanbarth:
Conwy

 

Rydw i'n hebogydd brwd sy'n dangos adar ysglyfaethus anhygoel mewn digwyddiadau gan gynnwys priodasau, trafodaethau ysgogol, digwyddiadau hyfforddi, partïon pen-blwydd, ysgolion a sioeau cefn gwlad.

Rydw i wastad wedi cael y pleser mwyaf o gwrdd â phobl newydd o bob cefndir a'u helpu, lle bo hynny'n bosibl.

"Cyn mentro i fyd busnes, gwnewch eich ymchwil i weld a oes angen y gwasanaeth yn yr ardal."

John Islwyn Jones - Pen y Bryn Falconry

Yn fy mlwyddyn gyntaf o fusnes, y wers fwyaf a ddysgais oedd bod yn rhaid rheoli eich hun a bod yn barod i roi popeth y gallwch ddydd a nos, 7 diwrnod yr wythnos, er mwyn llwyddo.

Rydw i wedi gwneud llawer o gamgymeriadau ond rydw i wedi dysgu oddi wrthynt a gwneud yn siŵr nad ydyn nhw'n digwydd eto.

Mae bob amser yn beth da edrych yn ôl a rhannu eich profiadau ag eraill. 

Ar ôl cael damwain yn gynnar ar ôl dechrau'r busnes, ro'n i mewn cadair olwyn am 18 mis ac fe gefais wybod na fyddwn yn gallu gweithio na cherdded byth eto yn ôl pob tebyg. Fe wnes i oresgyn yr her yma drwy wrthod ildio!

Fy musnes oedd fy mreuddwyd. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i allu gwneud bywoliaeth o fy hobi. Dwi'n mwynhau'r rhyddid o wneud fy mhenderfyniadau fy hun yn ogystal â'r cyfrifoldeb a’r heriau a ddaw yn sgîl hynny.

Rwy’n teimlo fy mod wedi newid canfyddiad pobl o adar ysglyfaethus ac mae fy adar yn helpu llawer o bobl i adennill eu hyder a goresgyn llawer o bethau sydd wedi digwydd yn eu bywydau.

Gweithio gyda phobl ifanc yw fy ysbrydoliaeth, yn enwedig pobl ifanc y mae angen ysbrydoliaeth arnyn nhw i wneud rhywbeth o werth. Rydw i'n gallu rhannu fy mhrofiad o ddechrau busnes drwy ddefnyddio fy syniadau a fy niddordebau fy hun.


Cysylltu gyda John