Jonathan Siddall
Storm Development Ltd
Trosolwg:
Dylunio gwefannau arbenigol
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Ceredigion

Dechreuais Storm Development yn 2009 ar ôl gadael y Fyddin. Roeddwn i'n gwybod fy mod yn meddu ar sgiliau dylunio ffotograffig ac ar y rhyngrwyd, felly penderfynais wneud defnydd da o’r wybodaeth a’r profiad hwnnw yn fy nghwmni fy hun. Rwyf bob amser wedi bod yn llawn cymhelliant ac rwy’n mwynhau’r rhyddid y mae bod yn bennaeth ar eich hun yn ei roi i mi ddilyn fy niddordebau eraill sy’n cynnwys hwylfyrddio a hedfan barcud. 
 
Mae unrhyw beth yn bosib os oes gennych ddigon o awydd ac yn barod i weithio amdano
Jonathan Siddall - Storm Development Ltd
 
Yn Storm Development, rydym yn dylunio gwefannau pwrpasol, gan gynnwys cynhyrchu fideos a ffotograffiaeth o safon uchel  Rwyf wedi defnyddio llawer o'r profiad a gefais yn y Fyddin, gan gynnwys disgyblaeth a blaengynllunio da i helpu i ddatblygu’r cwmni.