Mae Jordan yn Llysgennad Ifanc dros Syniadau Mawr Cymru
Mae ein Llysgenhadon Ifanc yn entrepreneuriaid newydd, uchelgeisiol sydd wedi dechrau busnes yn ddiweddar, ac sydd am ysbrydoli eu cyfoedion. Mae llawer ohonyn nhw wedi elwa ar gymorth gan Syniadau Mawr Cymru, a hoffen nhw rannu eu profiadau ar-lein ac mewn digwyddiadau. Rhowch wybod inni os hoffech chi drafod ag unrhyw rai o’n Llysgenhadon Ifanc.
Datblygodd Jordan Bishop, hyfforddwr rygbi a chwaraeon plant, y syniad tu ôl i Stridez wrth nofio am wisg nofio ar gyfer gwyliau. Ond o ganlyniad i’r dewis cyfyngedig a oedd ar gael mewn siopau ac ar-lein i ddynion ei siâp a’i faint ef, bu’n rhaid i Jordan brynu siorts mawr, nad oeddent yn ffitio’n dda, a fyddai’n ffitio dros ei goesau ond a oedd yn llawer rhy fawr o gwmpas ei ganol.
Ar ôl dod i’r casgliad nad ef allai fod yr unig berson a oedd yn ei chael yn anodd dod o hyd i bâr o siorts i ffitio eu maint, cynhaliodd Jordan arolwg a rannodd ar gyfryngau cymdeithasol, ledled ei gampfa ac ymhlith ei gyd-chwaraewyr rygbi. Cadarnhaodd y canlyniadau ei brofiadau personol ef yn llwyr.
Ers dechrau masnachu, mae Jordan wedi derbyn adborth rhagorol o chwaraewyr Gleision Caerdydd Seb Davies, Josh Navidi a Lloyd Williams y cafodd pob un ohonynt bâr o siorts Stridez yn rhodd.
“Heb arweiniad Chris a’r tîm yn Syniadau Mawr Cymru, ni fuasai llawer o syniad gen i am sut i wireddu fy syniad busnes. Mae gen i bron dim profiad busnes felly rwy’n dysgu’n gyson. Ond rwyf wrth fy modd gyda’r broses hyd yma, o weithio gyda dylunwyr i negodi â dosbarthwyr.”