Joseph George
Joseph George
Joey.G
Trosolwg:
Rapiwr, Cyfansoddwr Caneuon a Perfformiwr
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Conwy

Mae Joey.G yn Rapiwr, yn Gyfansoddwr Caneuon ac yn Berfformiwr sy’n cynhyrchu, yn hyrwyddo, ac yn gwerthu albymau.

Mae Joey.G yn perfformio mewn gwahanol leoliadau fel tafarndai, clybiau, ysgolion, cynulliadau, gweithdai, gwyliau, eglwysi, diwrnodau hwyl, gwersylloedd, dathliadau, achlysuron, cyfarfodydd efengylaidd, cenadaethau, y teledu, a’r radio. Cafodd gyfle i berfformio ar bedwar cyfandir, sef Ewrop, Affrica, Asia, ac America Ladin. Mae ei gerddoriaeth yn parhau i fynd o amgylch y byd. Bellach mae Joey.G yn byw yn Abergele ar arfordir y gogledd.

Mentrodd Joey.G i’r diwydiant cerddoriaeth i wneud CD yn rhan o brosiect unigryw i godi arian at achosion dyngarol fel cartrefi plant amddifad, cymorth i’r tlodion, adeiladu ysgolion, ysbytai, a chlinigau mewn cymunedau llai breintiedig. I gychwyn yr antur hon, cafodd Joey.G Grant Marchnata Prawf gan y Prince’s Trust a dalodd am oriau yn y stiwdio i gynhyrchu ei EP gyntaf, Signs of the Last Days.

Roedd Joey.G wedi tyfu i fyny yn gwrando ar ganeuon Michael Jackson, Lionel Richie, Stevie Wonder, Kurtis Blow, M.C. Hammer, LL. Cool J, Shalamar, New Edition, Bobby Brown, Cameo ac enwi ond ychydig. Ar ôl dod yn Gristion, mae wedi profi dylanwad D.C. Talk, Grits, Cross-Movement, Gospel Gangstaz, Priesthood, T-bone, Tunnel Rats, New Breed, GreenJade a’r Clique 116 Crew.

Rydw i wedi wynebu trafferthion ariannol, diffyg cymhelliant, pobl sydd heb hyder ynof i, pobl sy’n ceisio fy mherswadio i beidio â dilyn fy uchelgais, a’r demtasiwn i ildio.

Y peth gorau am fod yn fòs arnaf i fy hun yw’r cyfle i benderfynu pa bryd, ble a sut bydda i’n gweithio. Rydw i hefyd yn cael cyfle i ddatblygu fy syniadau, bod yn greadigol a dilyn fy uchelgais heb fod neb yn dweud beth allaf a beth na allaf ei wneud.

Fy nghyngor pennaf i entrepreneuriaid ifanc yw:

1)         Dilynwch eich uchelgais a’ch gweledigaeth â’ch holl galon

2)         Peidiwch ag ildio pan fydd rhwystrau’n codi

3)         Credwch ynoch chi’ch hun, daliwch afael yn eich ysbrydoliaeth a chanolbwyntiwch ar y nod