Joseph Martin
No Fear Photography
Trosolwg:
Ffotograffiaeth
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Sir Y Fflint

Rwyf yn rhedeg ac yn berchen ar No Fear Photography. Rwy’n dwlu ar gyflymder, antur a natur, ond yn fwy na dim, rwy’n dwlu ar bobl. Rwy’n ddigon ffodus fy mod yn meddu ar swydd sy’n cysylltu pob un o fy hoff bethau ynghyd. Cyn dechrau’r busnes hwn bu ffotograffiaeth yn angerdd yn unig, enillais fy mywoliaeth yn y fasnach adeiladu, fel teilsiwr yn benodol. Roedd hynny’n dda. Dyna a ddysgodd fy nhad gwych i mi ar ôl i mi adael yr ysgol ac rwy’n gallu ei wneud yn dda. Felly sut des i’n ffotograffydd? Dechreuodd pan ddaeth ein sgiliau adeiladu’n werthfawr ar gyfer gwaith elusennol. Yn gyntaf yn y Deyrnas Unedig, yna yn Affrica, Dwyrain Ewrop a’r Dwyrain Canol. Dechreuon ni gymryd rhan yn y gwaith o gynorthwyo â phrosiectau adeiladu a wnaeth yn amhosib i ni gyflawni’r holl gontractau teilsio a oedd gennym gartref.