Julie Nobes
Jools O’Brien
Trosolwg:
Busnes Eiddo a Dylunio.
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Caerdydd

2019, Blwyddyn Newydd – Cyfleoedd Newydd. Yn ddiweddar, rydw i wedi ymuno ag O’Brien Construction SW Cyf. ac rydw i wrth fy modd i fod y Cyfarwyddwr Dylunio ar gyfer Jools O’Brien, busnes Eiddo a Dylunio.

Mae gen i dri deg a dwy o flynyddoedd o brofiad yn y Busnes Rheoli Cyfleusterau, ac roeddwn i’n Berchennog a Rheolwr-Gyfarwyddwr APP UK. Yn ychwanegol at fy swyddogaeth yn APP UK, rydw i wedi datblygu portffolio o eiddo ac rydw i’n ymwneud â chaffael, adnewyddu a rhentu.

Yn ogystal, rydw i wedi datblygu Ymgynghoriaeth Fusnes (Boxt) sy’n canolbwyntio ar Frandio Personol, gan helpu BBaChau (busnesau meicro, bychain a maint canolig), busnesau sy’n cychwyn ac unigolion i dyfu yn bersonol ac yn broffesiynol fel ei gilydd, drwy asesu nodau a chyraeddiadau personol yn gyntaf ac yna eu datblygu i fod yn strategaeth fusnes. Bydd dod i adnabod yr unigolyn neu’r bobl y tu ôl i’r busnes a’u hanes yn cynorthwyo gyda datblygiad personol a phroffesiynol, bydd gwybod pwy ydych chi, a beth yw eich angerdd yn galluogi eich cwsmeriaid i ddefnyddio eich egni a hyrwyddo twf personol a thwf busnes. Mae fy ngwybodaeth eang o fusnes a’r sgiliau a gefais mewn Cwnsela, Therapi Creadigol a Dylunio Mewnol a Therapi Lliw yn cynorthwyo gyda hyn.