Justin Maunders
Justin Maunder
Sales Pro UK
Trosolwg:
Cwmni atebion marchnata a gwerthiant proffesiynol
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Fe sefydlais Sales Pro UK gyda fy mhartner busnes ym mis Medi 2000. Ar ôl mynd i lu o raglenni hyfforddiant gwerthiant a marchnata a gweithio gyda chwmnïau recriwtio oedd â'r nesaf peth i ddim profiad o werthiant, daeth i'r amlwg i ni fod bwlch yn y farchnad ar gyfer cwmni atebion marchnata a gwerthiant proffesiynol sy'n cael ei redeg gan bobl â phrofiad go iawn. Erbyn hyn, rydyn ni’n un o'r cwmnïau gwerthiant a marchnata gorau yng Nghymru.

"Byddwch yn fwy craff ac yn well na'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn."

Justin Maunder - Sales Pro UK

Gyda'n gilydd, mae ganddon ni dros 45 mlynedd o brofiad ym maes gwerthiant a marchnata. Rydyn ni wedi gweithio mewn rhai o'r amgylcheddau gwerthu anoddaf ac wedi llwyddo pan mae llawer o gwmnïau eraill wedi methu. Aethon ni ati i geisio helpu unigolion a chwmnïau i ragori ar eu targedau ac rydyn ni’n cynorthwyo llawer o gwmnïau ac unigolion fel ei gilydd erbyn hyn.

Fe wnes i wastraffu blynyddoedd lawer yn ceisio meddwl am syniad neu fusnes newydd nad oedd unrhyw un arall wedi meddwl amdano. Fodd bynnag, mae modd cael cymaint o lwyddiant gyda syniad sydd wedi hen ennill ei blwyf drwy ei wneud yn well na phawb arall!

Chefais fawr o hwyl arni yn yr ysgol, ond rydw i wastad wedi ceisio gwneud y gorau o beth sydd gen i. Y peth anoddaf y bu'n rhaid imi ei ddysgu oedd bod yn wrandäwr da.

Heb os nac oni bai, y flwyddyn gyntaf yw'r un fwyaf cyffrous. Fe ddysgais bod yr hyn a gewch allan o unrhyw brosiect yn dibynnu ar eich ymroddiad iddo.

Rydw i wrth fy modd yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ddilyn fy nhrywydd eich hun a helpu eraill sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â mi.

Hanfod fy ngwaith yw helpu pobl i wella eu busnes a'u gwerthiant. Felly, mae cael cyfle i roi pobl ar ben ffordd cyn iddyn nhw fagu arferion gwael ym myd busnes yn rhoi llawer o bleser imi.