Kacie Morgan photo
Kacie Morgan
The Rare Welsh Bit
Trosolwg:
Mae KM, sy’n byw yng Nghaerdydd, wedi bod yn blogio ers blynyddoedd ac mae’n aelod o Urdd yr Awduron Bwyd.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Bwyd a diod
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae KM, sy’n byw yng Nghaerdydd, wedi bod yn blogio ers blynyddoedd ac mae’n aelod o Urdd yr Awduron Bwyd. Mae ei blog, The Rare Welsh Bit (www.therarewelshbit.com), a sefydlwyd yn 2010, yn canolbwyntio ar fwyd a theithio o Gaerdydd i leoedd mor bell â’r Caribî. Mae’n ysgrifennu am ryseitiau, tai bwyta, cyrchfannau teithio, atyniadau, trafnidiaeth, llety a mwy.

Mae Kacie a’i blog wedi cael sylw ar BBC One, BBC Wales a BBC Radio Wales, ac yn y Mail On Sunday, y Metro, cylchgrawn Blogosphere, cylchgrawn Sainsbury's, cylchgrawn bwyd y Co-Op, Cyswllt Caerdydd (cylchgrawn cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd), WalesOnline, Western Mail a chylchgrawn Cardiff Life.

Yn 2018 derbyniodd KM wobr gan Awdurdod Twristiaeth Grenada am ei blog a’i sylw yn y cyfryngau cymdeithasol i Ŵyl Siocled Grenada. Cafodd ei blog hefyd ei roi ar y rhestr fer fel un o’r 10 uchaf ymhlith blogiau bwyd a theithio’r DU yng Ngwobrau Blogwyr Teithio Swyddfa’r Post.

Mae ganddi gefndir mewn newyddiaduraeth a thros 11 mlynedd o brofiad o ysgrifennu a golygu. Mae Kacie hefyd yn ysgrifennu ar ei liwt ei hun i bapurau newydd a chylchgronau fel The Sun, Croeso Cymru, cylchgrawn Sainsbury's, cylchgrawn bwyd y Co-Op, cylchgronau Around Town Wales a chylchgrawn Cardiff Life.

"Breuddwydiwch am bethau mawr a daliwch i roi un droed o flaen y llall. Gallai gymryd ychydig o amser i chi gyrraedd yno, ond os daliwch chi ati, rydych yn siŵr o gyrraedd ble bynnag rydych eisiau bod yn y diwedd."