Katerina Cook
5c Services Ltd
Trosolwg:
IT Solutions
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Powys

Ein cenhadaeth yw darparu cefnogaeth lefel menter TG i gwmniau lleol gyda lefel o wasanaeth a llygaid i fanylder. Rydym yn cynorthwyo clientiaid gydag unrhyw beth, o gefnogaeth TG syml i brosiectau TG mawr, a gosodiadau, gan gynnwys symud swyddfeydd neu adferiadau wedi trychinebau/damweiniau.

Rydym wedi sefydlu ers 2004, a bellach mae gennym dîm o 12. Rydym yn cefnogi clientiaid ar draws y DU o'n swyddfeydd yng Nghanolbarth Cymru.

Ar ôl gweld bwlch yn y farchnad i ddatrusiadau a chefnogaeth TG proffesiynol i fusnesau yng Nghanolbarth Cymru, fe benderfynais i a fy ngwr, Mike, ad-leoli nôl i Gymru a sefydlu 5c Service fel cwmni cyfyngedig. Mae 5c Service Ltd yn darparu datrusiadau TG cyflawn i fusnesau, o gefnogaeth TG syml i brosiectau TG cymhleth, a gosodiadau.

Rwyf wastad wedi bod yn benderfynol o wneud yn well, a pheidio gadael i unrhyw beth fy nal yn ôl, felly roedd cychwyn fy musnses fy hun yn ddewis naturiol. Roeddwn wirioneddol eisiau gwneud gwahaniaeth, a chyflawni pethau y byddwn yn falch ohonynt, felly dyma oedd fy ffordd o wneud hyn. Mae fy nheulu wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth, gan iddynt fy addysgu, doed a ddel, gallwn wastad obeithio, a gwneud pethau'n well. Mae hyn yn wir iawn i mi, gan i ni gael ein magu mewn rhanbath rhyfel, ble collom bopeth, ond fe wnaethom ail-adeiladu ein bywyd, a symud ymlaen.

Mewn busnes, rydych bob amser am wynebu problemau a rhwystrau, ac mae pob cam mewn busnes yn mynd i ddod a sialens. Rhaid ffocysu ar y nod terfynol, gan ysgwyddo'r sialens i gyrraedd yno.

Rwyf yn caru cael fy musnes fy hun gan ei fod yn wirioneddol wobrwyol i'w weld yn tyfu a newid yn gyson. Caraf y sialensau a ddaw, ac mae wastad rhywbeth i'w ddysgu. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o fedru sefydlu busnes gyda'm partner, gan ei fod yn ei gwneud yn haws, yn ogystal â chael tîm gwych y gallwn ddibynu arno.

Yr allwedd ydy penderfyniad, ond gallwch wneud unrhyw beth os rhowch eich meddwl arno; peidiwch bod ofn ceisio gwthio eich hun.