Keith Owens
Always and Forever Photography
Trosolwg:
Y ffotograffydd cyntaf yn Abertawe i fynd yn gyfan gwbl ddigidol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Fe ddechreuais ymddiddori mewn ffotograffiaeth pan oeddwn yn un ar bymtheg – prynais gamera SLR ail-law a buan iawn y daeth yn hobi go iawn. Rydw i wedi addysgu fy hun a heb gael unrhyw hyfforddiant ffurfiol.

"Chwiliwch am gyfleoedd, cynnyrch a syniadau newydd drwy'r amser er mwyn cynnal eich Pwynt Gwerthu Unigryw (USP)"

Keith Owens - Always and Forever Photography

 

Roedd gen i lawer o swyddi cyn imi fod yn ffotograffydd proffesiynol. Fodd bynnag, ar ôl colli fy ngolwg mewn un llygad, fe wnes i lansio busnes sydd bellach yn un o’r stiwdios ffotograffiaeth mwyaf blaenllaw yn yr ardal.

Fi oedd y ffotograffydd cyntaf yn Abertawe i fynd yn gyfan gwbl ddigidol. Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd eraill yn ei ystyried fel risg enfawr.

Drwy ddefnyddio'r feddalwedd a'r technegau prosesu diweddaraf, fe wnes i greu dyluniadau ffasiynol ac effeithiau ffotograffig oedd yn rhoi arddull unigryw a lle penodol mewn marchnad hynod gystadleuol.

Yn ddiweddar, fe wnes i brynu hen eglwys yn Llanelli a'i droi'n stiwdio/canolfan hyfforddi. Datblygu'r ganolfan yw fy nod nesaf. Rydw i am gynnig cyrsiau hyfforddi am sut i ddefnyddio'r pecynnau meddalwedd gorau ar gyfer cleientiaid corfforaethol/unigol sydd am ddilyn gyrfa ym maes ffotograffiaeth.