Ken Abram
Ken Abram
Trosolwg:
Datblygiad personol
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Fe adewais yr ysgol pan oeddwn yn 16 oed gyda 5 Lefel O. Ar ôl ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol (RAF), ro'n i'n cael fy rhyddhau yn ystod y dydd i astudio ONC mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol yng Ngholeg y Barri. Yn nghanol fy 20au, fe ddechreuais ganolbwyntio ar ddatblygiad personol, ac rydw i wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

"Dewch o hyd i gynnyrch/gwasanaeth y mae pobl yn chwilio amdano. Defnyddiwch sawl ffordd o farchnata. Cynigiwch wasanaeth gwell na'r rhai sy'n cystadlu yn eich erbyn. Ehangwch eich cynnyrch a'ch gwasanaethau"

Ken Abram

Fe sefydlwyd Abram Partnership LLP ym mis Hydref 2005. Cyn hynny, roedd yn masnachu am 13 blynedd fel The Abram Partnership a ddechreuodd ar 1 Mawrth 1992.

Mae ein cleientiaid yn cynnwys unigolion a busnesau sy'n awyddus i greu mwy o gyfoeth a thalu llai o dreth.

Ro'n i'n arfer gweithio mewn rôl debyg gyda chwmni mwy.

Fe gefais fy nadrithio gan safon cyngor a moeseg y cwmni, ac ro'n i am reoli safon y cleient a'r cyngor oedd yn cael ei roi drwy sefydlu fy musnes fy hun.

Mae'r busnes yn dal yn fach gyda 3 aelod o staff yn unig, ond mae'n ennill cryn elw.


Cysylltu gyda Ken