Laurence Hall
Handshake Productions CIC
Trosolwg:
Cwmni di-elw sy'n cynhyrchu ac yn cynnig hyfforddiant ym maes y cyfryngau digidol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae Handshake Productions yn gwmni di-elw sy'n cynhyrchu ac yn cynnig hyfforddiant ym maes y cyfryngau digidol.

"Mireinio a symleiddio'r broses yw'r gyfrinach. Mewn unrhyw sefyllfa, rydw i'n defnyddio unigolyn, tirwedd neu eitem newydd i fy ysbrydoli i gymryd y cam nesaf."

Laurence Hall - Handshake Productions CIC

Rydyn ni'n creu cynnwys gwe a fideo ar gyfer cleientiaid a'n prosiectau mewnol ein hunain, ac rydyn ni'n arbenigo mewn cadwraeth ac elusennau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth o faterion pwysig.

Yn 2005, edrychais ar gyfleoedd i wirfoddoli yn Affrica. Fe wnes i ddod o hyd i warchodfa mwncïod a adawodd imi greu ffilm am eu gwaith. Pan oeddwn i yno, fe wnes i gwrdd â fy mhartner busnes, Alasdair Davies. Roedd ganddon ni syniadau mawr o'r diwrnod cyntaf, ac fe gymerodd dair blynedd i roi'r syniadau yma ar waith.


Cysylltu gyda Laurence