Layla Bennett
Hawksdrift Falconry
Trosolwg:
Achub a gwella adar gwyllt ac ysglyfaethus mewn caethiwed.
Sectorau:
Ffermio a choedwigaeth
Rhanbarth:
Powys

Dechreuais weithio yn y diwydiant rheoli adar a gwelais gyfle i gynnig rhywbeth mwy a gwell. Doedd gen i ddim cymwysterau busnes, ond ro’n i’n benderfynol ac yn barod i weithio'n galed.

Fe wnes i lawer o gamgymeriadau, ond ro'n i bob amser yn gwneud fy ngorau glas. 6 blynedd yn ddiweddarach, mae fy nghwmni yn llwyddiannus ac yn tyfu'n gyflym.

"Dysgwch gymaint â phosibl am gyfrifeg ac arian - dyna oedd fy nghamgymeriad i! Manteisiwch ar unrhyw help a gynigir i chi, ac ymfalchïwch mewn rhoi cynnig arni, hyd yn oed os ydych yn methu dro ar ôl tro."

Layla Bennett - Hawksdrift Falconry

Cefais gydnabyddiaeth yng Ngwobrau Menywod y Flwyddyn. Fe fues i ar raglen Dragons Den BBC2 yn 2010, a llwyddais i gael buddsoddiad gan Duncan Bannatyne.

Roedd cynnal y llif arian yn her enfawr a bu'n rhaid i mi gael swyddi rhan-amser yn ogystal â chynnal y busnes yn ystod y 3 blynedd cyntaf i allu cael dau ben llinyn ynghyd.

 

Yn anffodus, fe ddysgais hefyd bod ennill parch fel menyw ifanc yn dalcen caled mewn diwydiant llawn dynion.

Mae'r Hawksdrift yn tyfu'n gyflym. Mewn 5-10 mlynedd, rydw i'n rhagweld y bydda i’n gweithio ledled Cymru a Lloegr ac yn cyflogi 20-30 o weithwyr.