Lee Sharma
Lee Sharma
SimplyDo
Trosolwg:
Mae SimplyDo yn llwyfan digidol sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n galluogi sefydliadau i arddangos, rheoli a darparu arloesedd yn well.
Sectorau:
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae Lee yn Brif Swyddog Gweithredol SimplyDo, llwyfan digidol sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n galluogi sefydliadau i arddangos, rheoli a darparu arloesedd yn well. Mae achosion defnydd yn amrywio o arddangos syniadau gweithwyr mewn sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus i farchnadoedd arloesi byd-eang sy’n cael eu rheoli’n llawn ar gyfer corfforaethau o'r radd flaenaf.

Fel arbenigwr ym maes rheoli newid digidol, mae Lee wedi arwain y busnes o’r cysyniad i’r cyfnod twf. Mae hyn yn cynnwys llywio tair rownd fuddsoddi yn llwyddiannus, recriwtio tîm arbenigol a sicrhau effaith gymdeithasol ac economaidd ledled y DU. Cyn SimplyDo, roedd Lee yn arwain amrywiaeth o raglenni rheoli newid ar gyfer y Llywodraeth ac Ewrop, a oedd yn cynnwys arloesi, entrepreneuriaeth a gwella busnes. Mae hefyd wedi gweithio yn y byd academaidd yn arloesi yn y maes gwasanaethau a’r cwricwlwm, gan ennill TAR a Gradd Meistr mewn Addysg Fenter ar yr un pryd.

Dull Lee yw gwneud i syniadau da ddigwydd drwy ddefnyddio technolegau galluogi. Mae hyn yn cael ei sbarduno gan ei angerdd dros arloesi a’i barodrwydd i wneud pethau’n wahanol.