Lisa Marie Brown
Pinkspiration
Trosolwg:
Menter unigryw i ysbrydoli darpar entrepreneuriaid
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Rydw i’n ferch busnes lwyddiannus sy'n ymwneud â datblygu 3 o fusnesau, gan gynnwys Pinkspiration sef menter unigryw a fydd yn helpu i ysbrydoli merched, dynion a phobl ifanc a fyddai'n hoffi sefydlu busnes neu sefydlu prosiect arloesol yn eu cymuned.
 
Bod yn ymrwymedig. Mwynhewch yr eiliadau arbennig hynny ac anelwch at gael cydbwysedd gwaith / bywyd. Meddyliwch yn fawr a breuddwydiwch yn fawr
Lisa Marie Brown - Pinkspiration 
 
Ei hangerdd yw gweithio yn y diwydiant adeiladu gan hyfforddi pobl ifanc ac aelodau'r gymuned a'u galluogi i ddod yn gystadleuol a bod yn unigryw yn y byd busnes modern heddiw drwy raglen deledu addysgol 'Design Factor' fel 'DIY SOS’ sy’n ymddangos ar ITV, sy’n adnewyddu llefydd gwag a siopau gwag. Os oes gennych ddiddordeb yn ein prosiectau diweddaraf gallwch weld ein lluniau ar ein tudalen Facebook. 
 
Gydag wyth mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu, penderfynais ddechrau fy musnes fy hun sydd wedi bod yn daith fythgofiadwy a byddwn yn argymell i unrhyw un fentro. Cefais fy mhenodi i weithio gyda Richard Branson yn Virgin Media fel Llysgennad i annog entrepreneuriaid yng Nghymru.

Gwefan:

www.pinkspiration.co.uk

www.lisamariebrown.co.uk

Facebook: Pinkspiration1