Lorraine Lloyd
Byblos Leisure
Trosolwg:
Parc Carafanau sy’n darparu ar gyfer perchnogion cartrefi gwyliau, carafanau sefydlog, teuluol a phebyll.
Sectorau:
Twristiaeth
Rhanbarth:
Ceredigion

Mae Parc Carafanau Brynrhodyn yn darparu ar gyfer perchnogion cartrefi gwyliau, carafanau sefydlog, teuluol a phebyll. Ceir golygfeydd bendigedig o’r môr a’r mynyddoedd o’r parc ac mae’n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau. Mae ein parc teuluol wedi cael ei ddatblygu’n raddol a gofalus ers iddo gael ei drwydded gyntaf yn 1960, i ddiwallu anghenion yr ymwelwyr mwyaf dethol. Mae wedi’i leoli ger Aberystwyth, rhwng y bryniau a’r traeth, y cychod a’r castell, yr harbwr ac adeiladau Fictorianaidd y dref.