Pan oeddwn tua 14 oed, fe benderfynais fy mod am weithio mewn stiwdio recordio cerddoriaeth. Yn 2004, fe agorais Warwick Hall Recording Studio ac rydw i wedi gweithio gyda thros 300 o gleientiaid ers hynny, gan gynnwys artistiaid sydd â labeli recordiau. Ers 2006, rydw i wedi canolbwyntio ar fy musnes cyhoeddi cerddoriaeth, South Girl Production Music Ltd.
"Cyn buddsoddi mewn unrhyw fusnes, gwnewch yn siŵr eich bod wedi treulio amser yn dysgu a deall y math o ddiwydiant yr ydych ar fin gweithio ynddo."
Luke Jones - South Girl Productions
Mae South Girl Production Music Ltd yn darparu cerddoriaeth i ddiwydiant y cyfryngau yn y DU a thros 30 o gwmnïau ledled y DU.
Dechreuodd y cwmni ym mis Ionawr 2005 ac rydw i wedi gweithio gyda nifer o artistiaid blaenllaw ers hynny fel Mel C (Red Girl/Universal Records).
Rydw i hefyd wedi cynhyrchu cerddoriaeth sydd wedi cael ei chwarae ar Radio 1xtra, Red Dragon FM, Radio One a Capitol FM.
Yr hyn rydw i'n ei fwynhau fwyaf am redeg fy musnes fy hun yw gwybod mai fi sydd â'r gair olaf bob amser. Fe fyddai'n well gen i fethu ar fy mhen fy hun na gwneud rhywbeth nad wyf yn ei gredu ynddo.