Lynne Orton
BizNet
Trosolwg:
Un o fudiadau rhwydweithio hynaf Cymru
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Castell Nedd Port Talbot

Mae BizNet Cymru yn un o sefydliadau rhwydweithio hynaf Cymru, gyda channoedd o bobl yn mynychu ein digwyddiadau bob blwyddyn. Wedi’i sefydlu yn 2001, rydym yn awr yn cynnal dros 140 o ddigwyddiadau busnes strwythuredig ar draws De a Gorllewin Cymru i bobl busnes ddod at ei gilydd, cyfnewid syniadau a chysylltiadau a gwneud busnes. 
 
Peidiwch â rhoi'r gorau iddi, daliwch ati i chwilio am ffyrdd o ddatrys eich problemau. Peidiwch â bod ofn gofyn am gyngor, a gwrando ar yr atebion. 
Lynne Orton - BizNet
 
Es i mewn i hunangyflogaeth yn ddiofyn ac oddi yno ymlaen i sefydlu fy musnes cyfredol. Y syniad oedd i’r busnes rhwydweithio fwydo cysylltiadau i fy musnes recriwtio; yn fuan roeddwn wedi cael digon ar recriwtio a phenderfynais roi fy holl egni i mewn i un busnes - rhwydweithio. Wnes i erioed feddwl am fod yn fos ar fy hun, er fy mod bob amser yn drefnus ac yn gallu trefnu eraill yn dda. 
 
Mewn oes lle mae dulliau marchnata newydd yn dod i'r amlwg bob dydd, mae'n braf cofio fod un egwyddor sylfaenol yn aros yr un fath: mae pobl yn gwneud busnes gyda phobl maent yn eu hadnabod, yn eu hoffi ac yn ymddiried ynddynt.
 
Roedd y flwyddyn gyntaf yn daith ddysgu fawr, gwnaethpwyd llawer o gamgymeriadau. Mae arian bob amser yn broblem, ond rhaid i chi fod yn realistig ac os na allwch ei fforddio, peidiwch â’i wneud. Mae'n rhaid i chi wynebu unrhyw broblemau, ni fyddant yn diflannu os ydych yn eu hanwybyddu; ar ôl i chi ddechrau ceisio eu goresgyn, mae’r pŵer gyda chi ac mae'n syndod pa mor dda rydych chi'n teimlo pan fydd pethau'n cael eu datrys.
 
Credaf yn gryf mewn helpu pobl ifanc i gyflawni eu nod o redeg eu busnes eu hunain. Chefais i ddim cyfleoedd o'r fath a dyna pam yr oeddwn yn hwyr yn dechrau. Byddaf yn dweud y gwir wrth fyfyrwyr, dydi o ddim yn hawdd, mae'n rhaid i chi weithio'n galed, ond mae'r gwobrwyon werth yr ymdrech.

Gwefan: www.biznetwales.co.uk