Lynton Black
Lynton Black Media
Trosolwg:
Dylunio graffeg, gwerthu ar-lein, dylunio gwefannau ac arbenigwr rhaglennu
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae gan y cyfarwyddwr, Lynton Black, a enwodd y cwmni ar ôl ei hun (Lynton Black Media), dri phrif faes o arbenigedd, sef dylunio graffeg, manwerthu ar-lein ac yn olaf ond nid y lleiaf, dylunio gwe a rhaglennu. Mae'r cwmni wedi gwneud llawer iawn o waith ar gyfer amrywiaeth o wahanol fusnesau, o wneuthurwyr gemwaith i gwmnïau dillad a chaffis i sefydliadau cerddoriaeth. 
 
Dywedwch wrth gymaint o bobl ag sy'n bosibl beth y gallwch ei wneud a beth a wnewch yn dda.
Lynton Black - Lynton Black Media
 
Dechreuodd Black y busnes fel estyniad o'i hoff hobïau o fewn y maes cyfryngau sydd wedi profi’n glir i fod yn fenter lwyddiannus iawn. Er gwaethaf ei lwyddiant, wrth gwrs bu rhwystrau i'w goresgyn yn ystod y broses, megis ei frwydr gychwynnol i fforddio meddalwedd dylunio hanfodol. Yn dilyn hyn fe’i cyflwynwyd i'r heriau y mae bron pob busnes sy'n tyfu yn eu hwynebu; cyllid a chyfalaf.
 
Y rhyddid creadigol sy'n dod gyda rhedeg eich cwmni eich hun yw'r hyn mae Black yn ei fwynhau fwyaf. Fodd bynnag, mae Black yn datgan nad yw realiti’r rhyddid hwn bob amser fel mae pobl yn ei weld; "er efallai y gallaf benderfynu pryd i godi yn y bore, nid yw'n golygu fy mod o reidrwydd yn gallu penderfynu pryd y gallaf fynd adref yn y nos!”
 
Cyn-athrawon a mentoriaid Lynton a wnaeth ei ysbrydoli i ddechrau ei fusnes ei hun ... ynghyd â'r cyflog!

Gwefan: www.lyntonblack.net