Maisie Prior
Maisie Prior
The Luxury Copywriter
Trosolwg:
Ysgrifennu copi llawrydd yn arbenigo mewn brandiau moethus
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Gwynedd

Cymerodd Maisie Prior, myfyriwr Ieithyddiaeth 4edd flwyddyn sy'n astudio Sbaeneg gyda Phrofiad Rhyngwladol, ddiddordeb mawr yn y sector moethusrwydd ar ôl gweithio fel rheolwr ffordd o fyw VIP yn Ibiza yn ystod ei blwyddyn dramor. Dyma le y dysgodd ymgymryd â thasgau ysgrifennu copi wrth rwydweithio ag elît y byd, a ddaeth yn ddarpar gleientiaid iddi'n fuan wedi hynny.

Yn wreiddiol sefydlodd ei busnes gyda'r bwriad o fod yn fath o gerdyn busnes ar-lein, lle i arddangos ei gwaith yn ddigidol wrth wneud ceisiadau am interniaethau yn y maes. Ond dechreuodd ymholiadau lifo i mewn a dechreuodd y busnes gymryd ffurf ac fe'i sefydlwyd ym mis Ebrill 2016.

Dywedodd Maisie am ei chynlluniau "Mae'n gyffrous i mi feddwl am ddychwelyd i Fangor yn dilyn fy mlwyddyn dramor; mae'n galonogol gwybod bod yna lawer o gefnogaeth yn fy nisgwyl pan wnaf ddychwelyd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn y gweithdai Byddwch Fentrus a gwneud y gorau o'r gwasanaeth mentora 1-1. Hefyd hoffwn yn fawr gyfrannu at bapur newydd myfyrwyr Prifysgol Bangor, Seren.”

"Mae fy ngwaith gyda FMS yn brofiad gwych o ran The Luxury Copywriter, ac rwy'n ddigon ffodus i fod yn gweithio gyda newyddiadurwyr, ysgrifenwyr copi a phobl greadigol hynod o dalentog, ynghyd â chael y cyfle i greu portffolio amrywiol a chyfoethog yn olygyddol. Rwy'n gobeithio gallu parhau â'r cwmni ar ôl graddio."

O ran ei gwaith gradd, dywed Maisie bod ei sgiliau iaith Sbaeneg wedi bod yn hollbwysig o ran agor drysau mewn marchnad waith gystadleuol. "Mae bod yn ddwyieithog wedi caniatáu i mi weithio a chyfathrebu gyda phobl na fuaswn wedi gallu ymwneud â nhw fel arall."

Mae Maisie hefyd wedi ennill Gwobr Mudoledd Menter Prifysgolion Santander  a bydd y cyllid yn caniatáu iddi hyfforddi gyda'r Sefydliad Marchnata Siartredig. "Bydd cwblhau'r cwrs Uwch Sgiliau Ysgrifennu Copi yn bendant yn rhoi'r hyder i mi fynd at gleientiaid hyd yn oed yn fwy" dywedodd.

Mae'n cydnabod bod y fenter wedi golygu heriau newydd iddi: "Gan nad oeddwn erioed wedi astudio busnes, teimlwn fod yr ochr gyfrifeg yn heriol iawn i ddechrau. Cymerodd rai dyddiau i mi ymdopi â chreu gwefan, ond daeth popeth ynghyd yn weddol gyflym. Y cyfan rydych ei angen yw angerdd, syniad a hunangred; mae gan y gweddill ffordd o weithio'i hun allan!"

Mae Maisie ar hyn o bryd yn intern gyda FMS Global Media, cyhoeddwyr trwy gontract yn Llundain sy'n creu cylchgronau i rai o frandiau moethus mwyaf y byd (Quintessentially, Waldorf Astoria Hotels, Sunseeker).

Website: http://www.theluxurycopywriter.com/

 


Wyt ti am ddatblygu dy wybodaeth a sgiliau busnes? Mae gan BOSS fwy na 140 o gyrsiau ar-lein i ddewis o’u plith! Cofrestra heddiw