Mandy Nash
Mandy Nash Jewellery
Trosolwg:
Dylunio a gwneuthurwr gemwaith gwreiddiol a gwahanol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Rwyf bob amser wedi mwynhau defnyddio fy nwylo a chreu pethau, felly roedd gwneud gyrfa o fy angerdd yn ddewis amlwg. Fy neiniau ysgogodd fy niddordeb mewn gwneud pethau trwy drosglwyddo eu sgiliau tecstilau traddodiadol i mi. Bellach, rwy’n dylunio ac yn gwneud gemwaith gwreiddiol a gwahanol mewn amrywiaeth o ddefnyddiau nad ydynt yn werthfawr ac ategolion ffelt hefyd. Rwyf wedi arddangos yn eang ar draws y DU, Ewrop, Japan, UDA a Chanada.
 
Bod ag angerdd am eich busnes yw prif elfen llwyddiant: Mae’n rhaid i chi gael ffocws a chymhelliant. Mae rhwydweithio gyda ffrindiau a chydweithwyr hefyd yn hanfodol ar gyfer cefnogaeth a llwyddiant.
Mandy Nash - Mandy Nash Jewellery
 
Roedd y flwyddyn gyntaf mewn busnes yn gymharol hawdd gan fod galw mawr am fy nyluniadau. Roedd y blynyddoedd dilynol yn anoddach fel yr oeddwn yn dysgu sut i gynllunio ymlaen llaw ac addasu i farchnadoedd sy'n newid. Yn 2010 cefais grant gan y Cyngor Celfyddydau i helpu i brynu torrwr laser, sydd wedi dod â llawer o bosibiliadau newydd i mi weithio gyda gwahanol ddeunyddiau. 

Gwefan: www.mandynash.co.uk