Mae Mandy yn ddatblygwr eiddo proffesiynol a landlord gyda phortffolio o eiddo, yn Ne Cymru yn bennaf, sydd werth sawl miliwn o bunnoedd. Mae hi'n ymfalchïo mewn bod yn foesegol a gofalgar yn ei busnes - ac o'r herwydd mae wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog i ysbrydoli eraill ac wedi bod yn weithgar iawn o fewn sefydliad y DU Women In Property i godi proffil a chyfleoedd i fenywod o fewn y sector eiddo ac adeiladu. Yn wir yn ystod 2019 i 2020 hi yw’r fenyw fwyaf blaenllaw o ran eiddo yn y DU gan mai hi yw Cadeirydd y sefydliad, y fenyw gyntaf o Gymru i gael y rôl. Mae hi'n fentor proffesiynol i'r rhai sydd eisiau datblygu eu portffolio eiddo eu hunain - ac mae hefyd yn cynnig cefnogaeth i entrepreneuriaid o unrhyw sector sydd o ddifri am ddatblygu eu busnes eu hunain.
Mewn gwirionedd, prynodd Mandy ei heiddo cyntaf yn 18 oed, ond dim ond yn hwyrach yn ei bywyd pan gafodd ei tharo gan y cyflwr ME (a elwir yn aml yn syndrom blinder cronig) y cymerodd y naid i ddechrau edrych o ddifri ar lwybr gyrfa arall. Eisoes yn llwyddiannus fel ymgynghorydd TG llawrydd a Rheolwr Hyfforddi a Datblygu, ni lwyddodd i barhau â'i gyrfa a bu'n rhaid iddi roi ei hiechyd ei hun yn gyntaf. Gwerthodd eiddo ar gyfer cartref mwy a phan sylweddolodd bod y prynwr yn mynd i’w rentu, roedd hi’n teimlo ei bod wedi “colli tric”, a bu Mandy yn pwyso a mesur pam nad oedd wedi meddwl am hynny. Gwnaeth Mandy ychydig o ymchwil a hyfforddiant gydag arbenigwyr a dechreuodd ei siwrnai.
Roedd Mandy wastad yn caru ac yn mwynhau cynllunio mewnol a ffasiwn ac fe’i hysbrydolwyd gan fenywod â busnesau llwyddiannus o fewn y sector - gan gynnwys Kelly Hoppen ac yn ddiweddarach Sarah Beeny. Cafodd ei hysbrydoli hefyd gan ddyfalbarhad a phenderfyniad ei mam-gu a'i mam, a frwydrodd ac a ffynnodd yn erbyn cefndir o dlodi ac incwm isel mewn cymuned lofaol yn y Cymoedd. Er ei bod yn falch o’i gwreiddiau yn Ne Cymru, mae Mandy wastad wedi ymdrechu i wella ei hun ac i ddarparu incwm a bywyd iddi hi ei hun sy'n cyd-fynd â’i breuddwydion. Llwyddodd i wneud hynny ac mae’n teimlo ei bod hi'n bryd cefnogi eraill.
Yn gyntaf, roedd yn rhaid i Mandy oresgyn y broblem o gael cyflwr a allai daro unrhyw bryd a bod yn wan am ddyddiau, wythnosau neu fisoedd ar y tro. Mae'n gyflwr y mae'n dal i'w reoli heddiw - M.E. Mae hi hefyd wedi dewis gweithio mewn sector lle mae dynion yn tra-arglwyddiaethu - tua 15 y cant o'r rhai sy'n gweithio ym maes eiddo neu adeiladu sy’n fenywod. Mae hyn wedi arwain at nifer o sefyllfaoedd lle mae Mandy wedi teimlo nad yw hi wedi cael ei chymryd o ddifri ym myd busnes - gormod i'w rhestru. Gall nifer o fenywod ym myd busnes deimlo ar ei hôl hi oherwydd efallai bod yn rhaid i'w busnes weithio ochr yn ochr â chyfrifoldebau neu anghenion eraill e.e. plant, gofalu am anwyliaid neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Mae hyn wedi ei hysbrydoli i ddangos i fenywod eraill bod ffordd ar gael os ydych chi'n barod i weithredu.
Mae Mandy yn credu bod sawl mantais i fod yn fos arnoch chi'ch hun - y peth cyntaf yw gwybod bod beth bynnag rydych chi'n ei ennill - mae pob ceiniog wedi dod drwy eich talent a'ch ymdrech eich hun.
Gallwch weithio tuag at eich nod eich hun - waeth beth mae unrhyw un arall yn ei feddwl. Os mai eich nod yw ennill £20k y flwyddyn neu £2m y flwyddyn - does dim un diffiniad penodol o lwyddiant.