Mandy Taylor-Haynes
JMK Records Ltd
Trosolwg:
Yn darparu hyfforddiant ym maes adloniant, llais a pherfformio
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Abertawe

Roeddwn i bob amser yn mwynhau canu a pherfformio, dyna oedd fy swydd gyntaf ar ôl i mi adael yr ysgol. Fy mam oedd fy mhrif ysbrydoliaeth – yn fy annog i ddilyn fy mreuddwydion, gweithio'n galed a mwynhau bywyd. Mae'r busnes wedi esblygu ac wedi newid dros amser mewn cyfeiriadau na wnes i erioed ddisgwyl iddo wneud, ond rwy'n mwynhau’n arw.

Dilynwch eich breuddwydion, a pheidiwch â bod ofn gofyn am help.

Mandy Taylor-Haynes - JMK Records Ltd 

Mae JMK Records Ltd yn darparu adloniant, hyfforddiant perfformiad a lleisiol a chyfleusterau recordio yn ein stiwdio bwrpasol. Fi sy’n cynnal y rhan fwyaf o'r hyfforddiant, ac mae fy mhartner yn delio efo'r ochr recordio.