Ein nod yw rhoi gwasanaethau sydd wedi'u teilwra'n unigol ym meysydd Cymorth Gweinyddol Rhithwir, Ymgynghoriaeth a Hyfforddiant i fusnesau bach a chanolig. Mae Wize yn cynnig porth i fenywod sydd am ymuno â ni fel aelodau cyswllt. Hoffwn ehangu fy mhorth i alluogi menywod eraill i wireddu eu breuddwydion o ddechrau busnes bach.
"Chi ddylai ddiffinio eich llwyddiant. Pennwch eich rheolau eich hun a byw bywyd yr ydych yn falch o'i fyw."
Mandy Weston - Wize Consulting Limited
Fe ddechreuais fy ngyrfa ym maes gweinyddol cyn gweithio fy ffordd hyd at lefel bwrdd. Pan oeddwn yn 34 yn 2000, ro'n i wedi ennill gradd mewn Rheoli Busnes. Ro'n i oddi cartref yn aml yn fy musnes blaenorol, felly gallu treulio mwy o amser gyda fy nheulu oedd yn fy ysgogi fwyaf wrth ddechrau'r busnes.
Rydw i wrth fy modd gyda hyblygrwydd y swydd yma gan fy mod yn gallu gweithio o gwmpas ymrwymiadau teuluol a chynnig gwaith i ffrindiau neu i bobl o fy newis i. Mae gweithio imi fy hun hefyd yn caniatáu imi weithio gyda fy hoff elusen a chymryd rhan mewn cynlluniau fel hwn.
Y Ganolfan Arloesedd i Fusnesau Newydd (ICE) yng Nghaerffili yw cartref fy musnes, ac rydw i hefyd yn gyfarwyddwr/gyfranddaliwr o'r ganolfan yma. Mae'r busnes wedi datblygu a thyfu’n sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn wedi fy ngalluogi i weithio gyda llawer o fusnesau newydd a'u helpu i ddatblygu atebion yn ystod cyfnodau llwyddiannus a mwy heriol.
Rydw i'n fam sengl sydd wedi goroesi canser y fron. Lle bynnag y bo modd, rydw i'n llysgennad sy'n helpu menywod i ddatblygu, boed hynny yn yr ystafell fwrdd neu fel entrepreneuriaid.
Mae gen i agwedd hynod bositif at fywyd ac rydw i'n credu'n gryf mewn gweithio'n galed. Fodd bynnag, rydw i hefyd yn mwynhau bywyd gan ei fod yn daith anhygoel.