Maria Leijerstam
Multisport Wales
Trosolwg:
Cwmni digwyddiadau a hyfforddi yw Multisport Wales sy’n cynnig chwaraeon antur i deuluoedd, unigolion a grwpiau corfforaethol
Sectorau:
Twristiaeth
Rhanbarth:
Bro Morgannwg

Mae Maria’n Dal Record Fyd-eang Guinness fel yr unigolyn cyntaf i seiclo i Begwn y De - yr unig record begynol a ddelir gan fenyw. Hefyd gosododd record cyflymder dan bŵer dyn am ei thaith feic o arfordir Antarctica i Begwn y De mewn 10 niwrnod, 14 awr a 56 munud. Hi oedd y fenyw Gymreig gyntaf i redeg Marathon Des Sables ar draws anialwch y Sahara a seiclo’n ddigymorth ar draws Llyn Baikal rhewllyd yn Siberia. Mae wedi treulio 10 mlynedd yn cystadlu ar gylched rasio antur ryngwladol ac yn ddiweddar mae wedi cael ei dewis i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan pennaf y byd am dwristiaeth antur fel Llysgennad Cymru fel rhan o Flwyddyn Antur 2016 ochr yn ochr â Bear Grylls.

Peidiwch â gadael i hunan-amheuaeth fod yn rhwystr. Mae’n mynd i fod yn anodd, bydd gennych chi ddyddiau anodd ond bydd yn werth y cyfan pan fyddwch chi’n creu rhywbeth y bydd pobl eraill yn talu amdano.

Maria Leijerstam - Multisport Wales

Sefydles i Multisport Wales yn 2010 fel ffordd o roi’r cyfle i bobl eraill gael profiad o chwaraeon anhygoel rasio antur.

Gwefan: burnseries.co.uk