Marina Kogan
Marina Kogan
Kogan Coaching
Trosolwg:
Rwyf yn Hyfforddwr Bywyd a Busnes, sy’n gweithio ag unigolion preifat, perchnogion busnesau a chwmnïau.
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Conwy

Rwyf yn Hyfforddwr Bywyd a Busnes, sy’n gweithio ag unigolion preifat, perchnogion busnesau a chwmnïau. Rwyf wedi gwirioni erioed â galluoedd, stamina a chreadigrwydd diddiwedd pobl. Rydych yn darllen ac yn clywed am bobl ryfeddol sydd wedi goroesi’n arwrol mewn sefyllfaoedd anodd, pobl sydd wedi gwireddu’r breuddwydion mwyaf annisgwyl, pobl sydd wedi canfod diddordeb angerddol mewn gwahanol feysydd. Rwyf yn helpu pobl i ddatblygu cydnerthedd, i ganfod eu diddordebau ac i ddod o hyd i ystyr yn eu bywydau. Mae bod yn Bartner Meddwl i berchnogion busnesau neu uwch reolwyr cwmnïau yn rhoi boddhad wrth weld cynnydd a datblygiad busnesau fy nghleientiaid. Rwyf yn cael fy ysbrydoli gan bobl sy’n gwneud y gorau o’u bywydau, beth bynnag yw’r caledi maent yn ei brofi, i fod yn garedig ac i werthfawrogi pob diwrnod a’r bobl o’u cwmpas. Fy nghyngor i bob amser yw: Credwch ynoch eich Hun! Os na wnaiff pobl eraill rydych yn dal i gredu ynoch eich Hun!