Mark Cragg
MC-Design (Engineers) Ltd
Trosolwg:
Awtomeiddio, roboteg, ceir, injians, electronau a thriniaethau gwres ar gyfer metelau
Sectorau:
Adeiladu
Rhanbarth:
Conwy

Mae MC-Design wedi cael ei sefydlu ers dros ddegawd, a chafodd ei greu ar ôl i Mark Cragg golli amynedd gyda gweithio i bobl eraill. Daeth y peiriannydd dylunio i sylweddoli drwy sefydlu ei gwmni ei hun byddai'n gallu gwneud y gwaith yr oedd eisiau ei wneud, y ffordd yr oedd eisiau ei wneud. 
 
Gweithiwch yn galed i ddod o hyd i rywbeth rydych yn dda am ei wneud a phan ddewch o hyd iddo, peidiwch â byw i weithio, gweithiwch i fyw. 
Mark Cragg - MC-Design (Engineers) Ltd
 
Mae Cragg yn arbenigo mewn meysydd awtomeiddio, roboteg, ceir, peiriannau, electroneg a hefyd gwaith poeth fel triniaeth gwres ar gyfer metelau. Mae'n credu'n gryf, er mwyn bod yn llwyddiannus yn ei ddiwydiant, ei bod yn hanfodol bod gan unigolion, o leiaf, ddealltwriaeth sylfaenol o bob agwedd ar ddylunio. 
 
O fewn y diwydiant, mae’r gwaith yn newid o ddydd i ddydd a’r amrywiaeth yma yw beth mae Cragg yn ei fwynhau fwyaf am redeg ei fusnes ei hun. Eglurodd - "Gallwch fynd o weithio ar olwynion roulette yn y diwydiant hapchwarae  un diwrnod, i sganio microsgopau a gweithio ar gychod y nesaf.
 
Er bod y cyflog yn rhywbeth y mae Cragg yn credu sy’n ei gymell i ryw raddau, nid hyn yw’r prif gymhelliant, hynny’n syml yw’r ffaith mai dylunio yw ei angerdd ac mae'n amlwg ei fod wir yn mwynhau ei alwedigaeth.