Mark Llewelyn Evans
Y Bariton
Trosolwg:
Diddanwr o fri
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Rhondda Cynon Taf

Mae Mark Llewelyn Evans yn ddiddanwr go iawn sydd â phrofiad o weithio yn y diwydiant ers dros ugain mlynedd. Mae wedi cael y fraint o ganu rolau teitl yn y Tŷ Opera Brenhinol, lleoliadau o amgylch yr UDA a gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Yn ogystal â'r campau rhagorol hyn, mae hefyd wedi serennu ochr yn ochr â Robert Downey Jr a Jude Law yn sioe lwyddiannus Guy Ritchie; Sherlock Holmes, yn chwarae Don Giovanni. 
 
Gall fod yn llwybr hir ac anodd sydd yn unig iawn ar adegau, ond mae'n anhygoel o werthfawr ac yn ysbrydoledig pan fyddwch yn cyrraedd a chyflawni eich dyheadau.
Mark Llewelyn Evans - Y Bariton
 
Ar ôl cyfarfod Syr Geraint Evans CBE yn ifanc, magodd Mark y cymhelliant roedd ei angen i gael clyweliad ar gyfer Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall ac fe'i derbyniwyd wedi hynny. Yn ddiweddarach aeth ymlaen i astudio yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain. Er mai ei fwriad cyntaf oedd i ganu opera yn unig, heddiw mae’n gysylltiedig ag amrywiaeth o brosiectau gwahanol megis cyflwyno sioeau radio ar gyfer y BBC, siarad ar ôl ciniawau mewn digwyddiadau gwahanol ar draws y byd, actio mewn ffilmiau, hysbysebion ac wrth gwrs, ei gyngherddau ei hun. 
 
Wrth ddweud hyn, fodd bynnag, mae hyn yn union y math o amrywiaeth gwaith mae Mark yn ei fwynhau fwyaf am fod yn fos ar ei hun. Mae'n caniatáu iddo gydweithio â pherfformwyr a chwmnïau eraill er mwyn creu darnau newydd, ysbrydoledig lle mae'n gallu gweld yr effaith mae ei greadigrwydd a’i dalent yn ei gael ar bobl eraill. 
 
Cyrhaeddodd albwm gyntaf Mark, Let the Light in, 10-Uchaf y DU a chynhyrchodd yr Enillydd Grammy, Nick Patrick, ei albwm ddiweddaraf, This Guy’s in Love, sy'n cynnwys cerddorfa 30 darn. 
 
Daw’r ysbrydoliaeth fwyaf tu ôl i'r dewisiadau mae Mark wedi’u gwneud oddi wrth ei fam, a gafodd MBE am ei gwasanaethau o fewn y diwydiant adloniant. Oherwydd ei gwaith caled hi, fe sylweddolodd y gall cymhelliant a chred ddod â chanlyniadau rhyfeddol.