Martin Britton
Martin Britton
Neva Vehicles Leasing South Wales
Trosolwg:
Cwmni llogi a rhentu cerbydau
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Caerdydd

Enillais brofiad wrth weithio i rai o gwmnïau rhentu a phrydlesu mwyaf y DU. Ar ôl ennill y profiad penderfynais sefydlu fy nghwmni fy hun. Treuliais lawer o amser yn cynllunio ac roedd y flwyddyn gyntaf yn llwyddiant mawr, fedrwn i ddim gwneud dim o’i le. Roeddwn i'n meddwl fy mod wedi llwyddo. 
 
Arhoswch yn gadarnhaol, brwdfrydig a pharhaus a byddwch yn cyflawni eich nod.
Martin Britton - Neva Vehicles Leasing South Wales
 
Y camgymeriad wnes i oedd bod tua 80% o fy musnes yn dod o un cwmni - camgymeriad MAWR. Rhoddont y gorau i fasnachu yn sydyn, a chafodd sgîl-effaith ofnadwy ar fy musnes. Roedd yn wers go iawn i mi.
 
Ers hynny rwyf wedi rhedeg fel masnachfraint gyda Neva Consultants, yn cynnig gwasanaeth prydlesu cerbydau a rhentu dyddiol. Unwaith eto, mae popeth yn mynd yn iawn, ar ôl dysgu rhai gwersi caled.