Martin Dawes
Martin Dawes
Martin Dawes
Trosolwg:
Bardd Proffesiynol

Rwy’n fardd proffesiynol llawn amser ers 20 mlynedd. Rwyf wedi datblygu enw da cryf am addysg greadigol, cyhoeddi a pherfformio fy marddoniaeth fy hun a, hefyd, cyflenwi gwaith comisiwn creadigol ar gyfer ystod eang o sefydliadau gan gynnwys; Llenyddiaeth Cymru, Cyngor Prydeinig, Theatr Genedlaethol Cymru a RSPB Cymru.

Fel perfformiwr, dechreuais ar y Meiciau Agored, symudais i slotiau nodweddion yn ystod sioeau barddoniaeth a chamu i fyny i sioeau teithio a gwaith comisiwn oddi yno. O safleoedd bws i awditoria, rwyf wedi ceisio gwneud fy ngorau glas ym mhob lleoliad y perfformiais ynddo.

Rhwng 2013 a 2016, cefais y fraint o fod yn Fardd Llawryfog Pobl Ifainc Cymru, ac yn y rôl honno cefais gyfle i deithio’n helaeth gan gynrychioli Cymru mewn Digwyddiadau Rhyngwladol, a hefyd i weithio’n helaeth ym mhob rhanbarth o Gymru gan ymgysylltu â phobl ifainc a’u hysbrydoli i rymuso eu hunain trwy eu creadigrwydd.

Rwyf yn ystyried fy hun fel unigolyn ffodus iawn i ennill bywoliaeth trwy gyflawni rhywbeth fy mod yn dwlu arno. Rwyf bob dydd yn dddiolchgar am y ffaith bod fy ngwaith fel bardd yn rhoi cymaint o foddhad a chyfle am dwf personol tra’n fy ngalluogi i gyfrannu at gymunedau trwy gyflenwi diwylliant.