Michele Lambert
Michele Lambert Yoga
Trosolwg:
Dosbarthiadau ioga wythnosol yn ogystal â gwyliau seibiant cyfannol
Sectorau:
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Rhanbarth:
Pen-y-bont ar Ogwr

Y prif reswm dros ddechrau fy musnes oedd er mwyn imi allu magu fy merch wedi i fy mhriodas chwalu, ond ro'n i hefyd am ennill bywoliaeth a gwella ein bywydau.  Fe benderfynais bod iechyd cyfannol yn faes oedd yn tyfu ar ôl mynychu dosbarthiadau ioga, cyn mynd ati i addysgu ioga.  Rydw i'n aromatherapydd, masseuse ac adweithegydd cymwysedig.

"Gwnewch eich ymchwil am y maes busnes yr ydych wedi'i ddewis ac aseswch y rhai fydd yn cystadlu yn eich erbyn. Canolbwyntiwch ar beth ydych am ei gyflawni. Cynllunio yw'r gyfrinach - ond byddwch yn barod i'w newid os oes angen gwneud hynny."

Michele Lambert - Michele Lambert Yoga

Dechreuais arni drwy rentu caban pren fy ffrind, ond rydw i'n cynnal dosbarthiadau ioga wythnosol erbyn hyn yn ogystal â gwyliau seibiant cyfannol.

Rydw i wedi gwneud llawer o gamgymeriadau ar hyd y ffordd, ac rydw i wedi dysgu oddi wrth bob un ohonyn nhw.


Cysylltu gyda Michele