Michelle Foulia
Michelle Foulia
Words for Healing
Trosolwg:
Ysgrifennwr - Awdur - Siaradwr
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Wrecsam

Sut a pham wnaethoch chi ddechrau eich busnes

Erbyn fy mlwyddyn olaf yn fy ysgol gynradd, pan oeddwn tua 11 oed, roeddwn i eisoes wedi colli fy rhieni, wedi bod yn ofalwr ifanc i fy nain sâl ac wedi symud i sawl cartref maeth. Ar wahân i drawma dwys, roeddwn i’n cael trafferth yn yr ysgol gydag ADHD heb ddiagnosis, gan deimlo fy mod i’n faich ac ar goll.

Ar ddiwrnod olaf yr ysgol, cyn symud ymlaen i’r ysgol uwchradd, treuliodd ein hathro ysgol gynradd ychydig funudau gyda phob un o’m cyd-ddisgyblion i ffarwelio. Pan ddaeth fy nhro i, roedd hi’n gafael yn fy nwylo ac yn gofyn i mi addo iddi y byddwn i’n ysgrifennu dyddiaduron a straeon oherwydd un diwrnod byddai fy ngeiriau’n gwella pobl eraill drwy fy ngwaith ysgrifennu.

Ei geiriau hi oedd yr unig gadarnhad cadarnhaol a gefais yn ystod fy mhlentyndod cyfan a phlannodd hedyn a dyfodd dros y blynyddoedd o fwy o drallod tan 37 mlynedd yn ddiweddarach, ym mis Medi 2022, fe wnes i gwblhau a chyhoeddi fy llyfr cyntaf. Mae Poppy’s Miracle yn seiliedig ar stori achub ein ci, Poppy, ond mae’n helpu plant (yn ogystal â rhieni ac athrawon) i ddeall a dathlu ADHD fel anrheg ac nid anhwylder.

Fy ngweledigaeth i yw defnyddio fy angerdd dros lyfrau ac ysgrifennu yn ogystal â’m hyfforddiant mewn hyfforddiant bywyd, cwnsela a hypnotherapi clinigol i gyhoeddi llyfrau therapiwtig, llyfrau lliwio a dyddiaduron i oedolion a phlant, a chodi arian ar gyfer achosion sy’n ymwneud â’r pynciau y byddaf yn ymdrin â nhw yn y llyfrau.

Pwy neu beth wnaeth eich ysbrydoli chi

Mae fy athrawes ysgol gynradd, Mrs Nitsa, pan oeddwn i’n 11 oed. Ar ôl hynny, roedd angen i mi ddefnyddio fy holl brofiadau i wneud gwahaniaeth i eraill. Rydw i wedi profi trawma cymhleth a datblygiadol yn ystod fy mhlentyndod ac yn ystod fy nghyfnod yn oedolyn, felly roeddwn i eisiau i’r holl wersi hynny gael eu defnyddio mewn ffordd a fyddai’n cynnig anogaeth, ysbrydoliaeth a newid go iawn.

Unrhyw broblemau y bu’n rhaid i chi eu goresgyn

Llawer. Mae CPTSD, Ffibromyalgia, ADHD, Dyslecsia i gyd wedi ychwanegu at fy heriau gan fy mod i’n aml yn teimlo fy mod i’n ymladd yn erbyn fy hun, nid dim ond yr holl amgylchiadau allanol.

Rwyf wedi colli holl aelodau uniongyrchol fy nheulu, wedi tyfu i fyny yn y system ofal ac wedi bod yn ofalwr ifanc i’m nain anabl, wedi profi cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod, wedi cael fy esgeuluso, wedi cael fy mwlio yn yr ysgol, wedi cael erthyliad yn 22 oed, pedwar erthyliad naturiol, marw-enedigaeth fy mab, genedigaeth drawmatig fy nhri phlentyn byw, digartrefedd, dyled, mewnfudo i wlad arall ar 3 achlysur, wedi symud cartref dros 26 o weithiau ac wedi brwydro â salwch meddwl drwy gydol y cyfnod.

Fodd bynnag, drwy gydol fy holl drallod, mae tân wedi llosgi ynof i, na fyddai fyth yn diffodd. Roeddwn i’n dal i oroesi ac yn credu mai’r rheswm dros hyn i gyd oedd fy mharatoi i helpu plant a rhieni eraill. Mae’r twf a’r gwersi wedi fy ngalluogi i fagu fy mhlant ac eirioli dros eu hanghenion, i’w haddysgu gartref pan na allai’r system gefnogi eu hanghenion, i fod yn ofalwr maeth, i ddechrau pedwar busnes llwyddiannus, i ddysgu llawer o sgiliau yr oedd eu hangen arnaf er mwyn llwyddo, i ddod o hyd i fy llais, i adnabod fy rhoddion ac i’w defnyddio o’r diwedd.

Datblygodd fy mhrofiadau fy ngwerthoedd pennaf sef urddas, cyfiawnder a thosturi. Rydw i wedi dysgu defnyddio fy ADHD i weithio i mi, nid yn fy erbyn i, oherwydd rydw i’n cydnabod y galluoedd mae wedi’u rhoi i mi a sut gallaf eu defnyddio er mantais i mi.

Beth yw’r peth gorau am fod yn fos arnoch chi eich hun?

Penderfynu pa ffordd i ddatblygu fy musnes a phryd. Gwneud penderfyniadau bob dydd, gweithio’r oriau rydw i  eisiau o amgylch fy mhlant, gallu rhoi i fy nheulu a’u gweld yn llawen, gallu dechrau busnes dielw a defnyddio arian fy musnes i helpu prosiectau elusennol. Hefyd, rhoi’r rhyddid i mi fuddsoddi amser ac egni i helpu eraill ar eu teithiau eu hunain.

Cyngor Gorau

  • Ymchwil, ymchwil, ymchwil. Peidiwch â gadael unrhyw garreg heb ei throi i ddysgu popeth am eich cystadleuwyr, sut maen nhw’n gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud, beth maen nhw’n ei wneud yn well, sut maen nhw’n marchnata eu hunain ac ati, yn ogystal ag ymchwil a dysgu popeth y gallwch chi am eich pwnc, pa bynnag fusnes rydych chi’n ei ddechrau.
  • Gwyleidd-dra. Dydw i ddim yn cytuno bod y cwsmer bob amser yn iawn oherwydd mae’n rhaid i chi eirioli dros eich hun pan fyddwch chi’n cael eich trin yn wael, ond mae gwyleidd-dra’n mynd yn bell ac yn siarad cyfrolau.
  •  
  • Peidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu. Buddsoddwch rywfaint o’ch amser yn dysgu’n barhaus am yr hyn rydych chi’n ei wneud a sut i’w wneud yn well. Darllenwch lyfrau, bywgraffiadau, gwrandewch ar bodlediadau, gwyliwch ffilmiau am fywydau’r rheini sydd wedi gwneud yr hyn rydych chi’n ei wneud, darllenwch flogiau a byddwch yn chwilfrydig bob amser.
  • Mae hunanddatblygiad yn rhan o’ch busnes a’ch bywyd felly treuliwch amser yn datblygu siliau a nodweddion eraill, arferion iach, oherwydd bydd y rhain yn eich arwain at fwy o lwyddiant wrth i chi fireinio eich cymeriad, ymddygiad a symleiddio eich arferion o ddydd i ddydd.