Michelle Inch
Pawfection Pet Boutique
Trosolwg:
Boutique a sba ar gyfer anifeiliaid anwes
Sectorau:
Amrywiol
Rhanbarth:
Bro Morgannwg

Fe gefais fy mwlio yn yr ysgol ac ro'n i'n benderfynol o lwyddo a dangos i bawb mod i'n gallu gwneud hyn.  Gyda chymorth Ymddiriedolaeth y Tywysog, sefydlais fy musnes fy hun, Pawfection Pet Boutique.  Mae'n boutique a sba ar gyfer anifeiliaid anwes. Rydyn ni'n gwerthu cynnyrch moethus gan gynnwys coleri a bwyd.

"Ewch amdani! Peidiwch â gadael i neb ddweud wrthych nad ydych chi'n ddigon da. Os ydyn nhw'n dweud hynny, ewch ati i ddangos eu bod yn anghywir!"

Michelle Inch - Pawfection Pet Boutique

Rydyn ni hefyd yn cynnig triniaethau sba moethus gan gynnwys triniaethiau i;r wyneb a pawdicures ar gyfer cŵn.  Rydw i hefyd yn lansio fy nghynnyrch fy hun.

Fy merch wnaeth fy ysgogi fwyaf - ro'i am greu bywyd gwell ar ei chyfer.  Mae wedi bod yn anodd, yn enwedig ar y dechrau, ond rydw i wedi mwynhau pob munud o'r profiad.


Connect with Michelle