Mike Denison
Clearality Ltd
Trosolwg:
Hyfforddi gweithredol, strategaeth fusnes, gwella busnesau ac arweinyddiaeth
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Sir Ddinbych

Sefydlais fy musnes ar ôl gyrfa hir mewn gweithgynhyrchu gyda llawer o gwmnïau byd-eang, gan gynnwys Ford a Toyota. Roeddwn i eisiau rheoli fy nhynged fy hun, a byw yn ôl fy llwyddiant a’m rhinweddau fy hun. Mae fy nghwmni’n arbenigo mewn hyfforddiant gweithredol, strategaeth fusnes, gwella busnes ac arweinyddiaeth - gan helpu i drawsnewid busnesau ledled y byd. Mae gen i fwy o angerdd am yr hyn rwyf yn ei wneud yn awr nag ydw i erioed wedi bod yn fy mywyd.

Byddwch yn bendant am pwy ydych chi, yr hyn rydych chi wrth eich bodd yn ei wneud a pham.

Mike Denison - Clearality Ltd

Y rhwystrau mwyaf i mi wynebu ydi cleientiaid nad ydynt yn talu’n brydlon, a'r banciau. Gallaf reoli a dylanwadu ar bopeth arall.