Mike Donovan
MIDO Publications Ltd
Trosolwg:
Mae Practical Farm Ideas yn dibynnu’n gyfan gwbl ar ddarllenwyr.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Fe enillais radd mewn Economeg Amaethyddol ym Mhrifysgol Reading. Wedi hynny, bues i'n gweithio yn Llundain i'r Uned Deallusrwydd Economeg. Fe es i ati wedyn i brynu fferm ac astudio rhai cyrsiau mewn weldio. Fe ddechreuais addasu offer sylfaenol ar gyfer y fferm a dyna pryd y cefais y syniad o sefydlu fy musnes.

"Os ydych am lwyddo mewn bywyd, rydw i'n credu'n gryf bod angen dod o hyd i swydd. Hyd yn oed os oes gennych rieni sy'n filiwnyddion, mae angen i chi fynd ati, diffodd y cyfrifiadur a dechrau ar y gwaith. Gorau po gyntaf y gwnewch hynny er mwyn dechrau eich busnes eich hun."

Mike Donovan - MIDO Productions

Ym 1992, fe gynhyrchais y copi cyntaf erioed o Practical Farm Ideas, ac mae'n cael ei werthu ledled y DU ac mewn rhai mannau ar draws y byd. Mae'n arbenigo mewn dangos beth yw ffermio go iawn ac mae'n fwy perthnasol i ffermwyr prysur

Daeth i'r amlwg imi fod cylchgronau ffermio yn canolbwyntio ar gynnyrch penodol a bod elfen dechnegol eu cynnwys yn seiliedig ar hyrwyddo'r cynnyrch yma. I mi fel ffermwr, fodd bynnag, roedd mwy ddiddordeb gen i mewn arbed arian ac ro'n i am ddarllen am faterion o'r fath. Felly, oherwydd bod bwlch yn y farchnad, ro'n i am gynhyrchu cylchgrawn oedd yn fwy addas i anghenion ffermwyr.

Mae Practical Farm Ideas yn dibynnu’n gyfan gwbl ar ddarllenwyr. Prosiectau gweithdai, agweddau ymarferol ar reoli ffermydd, ffermio âr, da byw, llaeth, agweddau ariannol, rheoli pridd, newyddion ffermio rhyngwladol. Rydym yn ymweld â ffermwyr arloesol ar hyd a lled y wlad a thramor. Âr a da byw, cymhleth a syml, syniadau untro wedi’u haddasu a’u creu o’r newydd. Syniadau ffermio na fydd darllenwyr wedi eu gweld o’r blaen.